A wnaiff Comisiwn y Cynulliad ddarparu dadansoddiad fesul blwyddyn o’r arian sydd wedi’i wario ar gyrsiau/hyfforddiant Saesneg yn ystod y tair blynedd diwethaf?
Mae’n ofynnol bod staff Comisiwn y Cynulliad ym mhob swydd weinyddol a rheoli yn meddu ar gymhwyster Saesneg iaith ar lefel TGAU neu gyfwerth wrth gymryd y swydd.
Gall staff y Comisiwn gael mynediad at raglen lawn o hyfforddiant yn y gweithle i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu a chyfathrebu Saesneg. Mae hyn yn cynnwys golygu copi, ysgrifennu areithiau a sgiliau ysgrifennu ar gyfer busnes. Ymgynghorir â Phenaethiaid Gwasanaeth a staff ynghylch cynllunio hyfforddiant at y diben sy’n cyd-fynd ag anghenion y sefydliad.
Gall Aelodau a’u staff fanteisio ar raglen debyg. Gall yr Aelodau ofyn am gymorth penodol i’w staff, mewn ymateb i anghenion penodol yn eu swyddfeydd, neu i wella’u perfformiad. Mae’r cyrsiau hyfforddi’n cynnwys ysgrifennu briffiau effeithiol, ysgrifennu areithiau ar lefel dechreuwr a lefel uwch, ysgrifennu effeithiol ar lefel dechreuwr a lefel uwch, ysgrifennu llythyrau, cyfathrebu effeithiol, ysgrifennu CV a thechnegau cyfweld.
Mae’r tabl isod yn dangos gwariant yn y maes hwn ar hyfforddiant a ddarperir gan ddarparwyr allanol. Darperir cymorth mewnol hefyd, er enghraifft ar gyfer ysgrifennu ceisiadau swydd a CVs. Nid yw’r costau hyn wedi’u cynnwys isod. Gwariant ar hyfforddiant allanol dros y tair blynedd diwethaf sydd i’w weld isod:
Blwyddyn ariannol |
Costau hyfforddiant |
2016-17 |
£6,640.00 |
2017-18 |
£17,867.00 |
2018-19 |
£17,000.00 |
|
|
Cyfanswm |
£41,507.00 |