A wnaiff Comisiwn y Cynulliad ddarparu dadansoddiad fesul blwyddyn o’r arian sydd wedi’i wario ar gyrsiau/hyfforddiant Cymraeg yn ystod y tair blynedd diwethaf?
Yn unol â’r uchelgeisiau a nodir yn y Cynllun Ieithoedd Swyddogol, y cytunodd y Cynulliad arno yn dilyn gwaith craffu gan y pwyllgorau, mae’r Comisiwn wedi canolbwyntio ar gyflawni’r blaenoriaethau y cytunwyd arnynt. Mae hyn yn cynnwys darparu gwersi Cymraeg ar draws y sefydliad drwy’r Tîm Sgiliau Iaith yn benodol i ddatblygu rhaglen hyfforddiant sgiliau iaith Gymraeg, gan ystyried y gwahanol ofynion ac arddulliau dysgu sydd gan ein holl aelodau o staff; ac mae’r Comisiwn yn parhau i gynnig darpariaeth dysgu Cymraeg sy’n hyblyg ac yn benodol i Aelodau’r Cynulliad a’u staff.
Ar hyn o bryd, mae’r Tîm Sgiliau Iaith yn darparu hyfforddiant rheolaidd i oddeutu 160 o ddysgwyr, gan gynnwys Aelodau’r Cynulliad, Staff Cymorth a staff Comisiwn y Cynulliad.
Ochr yn ochr â’r cymorth mewnol a ddarperir gan y Tîm Sgiliau Iaith, gall Aelodau, eu staff a staff Comisiwn y Cynulliad hefyd fanteisio ar hyfforddiant drwy ddarparwyr allanol i’w helpu i ddatblygu eu defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle, er enghraifft ysgrifennu briffiau effeithiol, ysgrifennu llythyrau a chyrsiau Cymraeg preswyl.
Mae manylion isod am wariant ar hyfforddiant/cyrsiau iaith Gymraeg a ddarparwyd gan ddarparwyr allanol dros y tair blynedd diwethaf.
Blwyddyn ariannol |
Costau hyfforddiant |
2016-17 |
£15,490.00 |
2017-18 |
£6,241.00 |
2018-19 |
£5,041.00 |
|
|
Cyfanswm |
£26,772.00 |