Pryd y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru gyhoeddi ei adroddiad a'i argymhellion ar adolygu gweithrediad y system gyfiawnder yng Nghymru, fel y nodir yn ei gylch gorchwyl a gyhoeddwyd gan gyn-Brif Weinidog Cymru ym mis Tachwedd 2017?
Wedi'i ateb gan Prif Weinidog | Wedi'i ateb ar 01/08/2019
Fel y mynegwyd yn natganiad fy rhagflaenydd ym mis Tachwedd 2017, mae gan y Comisiwn tan ddiwedd y flwyddyn hon i gyhoeddi adroddiad o’i ganfyddiadau a’i argymhellion. Er hynny rydyn ni’n disgwyl i’r Comisiwn gyhoeddi ei adroddiad yn yr hydref.