WAQ78636 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/07/2019

A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am y rhesymau dros y penderfyniad i beidio â chael stondin y Cynulliad yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru eleni?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Cynulliad | Wedi'i ateb ar 02/08/2019

Fe wnaeth Comisiwn y Cynulliad y penderfyniad i ailystyried natur presenoldeb y Cynulliad ym mis Mehefin 2018. Roedd y dadansoddiad cost a budd ac adborth gan y pwyllgorau’n awgrymu nad oedd llawer o bobl yn ymweld â’r gofod a gafodd ei logi am yr wythnos gyfan yn y blynyddoedd blaenorol a bod llawer o’r rheini yn ymwelwyr mynych. Felly dyma’r ail flwyddyn lle nad ydym wedi talu am stondin yn Sioe Frenhinol Cymru.

Fodd bynnag, nid yw hynny’n golygu na fu gennym bresenoldeb. Ers y llynedd, datblygwyd rhaglen o ddigwyddiadau partneriaeth ar ran y Comisiwn a phwyllgorau perthnasol. Mae’r rhaglen yn caniatáu i ni feithrin cysylltiadau newydd ac mae’n gyfle i’r Aelodau drafod materion sy’n effeithio ar randdeiliaid gwledig ac amaethyddol. Er enghraifft, mae tîm y Senedd Ieuenctid wedi bod yn bresennol gydol yr wythnos ym mhafiliwn y Ffermwyr Ifanc ers 2018, sydd wedi ennyn cryn ddiddordeb yn ei gwaith. Roedd hyn yn cynnwys cyfranogiad gan Aelodau’r Senedd Ieuenctid eleni. Hefyd, rydym wedi cynnal cyfarfodydd pwyllgor ffurfiol a thrafodaethau panel mewn partneriaeth ag S4C ac ITV Cymru. Mae’r Llywydd hefyd yn cynnal derbyniad blynyddol, a gwahoddir yr holl Aelodau a rhanddeiliaid allweddol iddo.