A wnaiff y Comisiwn ddarparu dadansoddiad manwl o'r taliadau diswyddiadau gwirfoddol a wnaed dros y tair blynedd diwethaf i staff y Comisiwn, rhwng y ffigurau canlynol: £1-£25,000, £25,000-£50,000, £50,000-£75,000, £75,000-£100,000, £100,000 a drosodd?
Caiff costau ein Cynllun Ymadael Gwirfoddol 2018-19 eu cadarnhau yn ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon, a archwiliwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru ac a fydd yn cael eu gosod a'u cyhoeddi yr wythnos hon. Nid oes gennym gynlluniau ar gyfer gwariant pellach ar gynlluniau ymadael gwirfoddol yn y dyfodol agos.
Fe wnaethom gynnal Cynllun Ymadael Gwirfoddol ddiwethaf yn 2015-16 a rhoddir y ffigurau archwiliedig ar dudalen 134 o Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2016-17.
|
Taliadau Diswyddo Gwirfoddol |
|||
£ |
2015-16* |
2016-17 |
2017-18 |
2018-19* |
1-25,000 |
12 |
1 |
- |
7 |
25-50,000 |
2 |
- |
- |
8 |
50-75,000 |
4 |
- |
- |
6 |
75-0100,000 |
- |
- |
- |
1 |
100,000 a drosodd |
1 |
- |
- |
2 |
Cyfanswm |
19 |
1 |
0 |
24 |
* Datgelwyd/cronnwyd y symiau yn y flwyddyn ariannol hon; gwnaed taliadau i unigolion yn y flwyddyn ariannol ddilynol.
Cyfrifwyd y swm a oedd i'w dalu i unigolyn yn unol â rheolau Cynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil a oedd ar waith ar adeg y Cynllun Ymadael Gwirfoddol (cyflog mis ar gyfer pob blwyddyn o wasanaeth - yn amodol ar uchafswm cyflog o 21 mis gyda threfniant tapro ar gyfer y rhai sydd o fewn dwy flynedd i oed ymddeol eu cynllun).