WAQ78543 (w) Wedi’i gyflwyno ar 05/07/2019

A wnaiff y Gweinidog amlinellu beth oedd a) cylch gwaith, b) aelodaeth ac c) deilliannau'r grŵp gorchwyl a gorffen yn ymwneud a gwaith hybu'r Gymraeg y cyfeirir ato yn natganiad ysgrifenedig cyn-Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar 6 Ebrill 2017?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol | Wedi'i ateb ar 12/07/2019

Cylch gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen (a alwyd yn ‘Fwrdd Cynllunio Hybu’r Gymraeg) oedd llywio a chynghori Llywodraeth Cymru ar raglen o weithgareddau a chanddi’r nod pennaf o gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg. Ariannwyd y rhaglen hon fel rhan o’r cytundeb gwleidyddol a glustnododd £2 filiwn ychwanegol yn ystod 2017-2018 i hybu a hwyluso’r Gymraeg.

Prif Swyddogaethau’r Bwrdd Cynllunio:

  1. Rhoi cyngor ar sefydlu a gweithredu rhaglen o weithgareddau
  2. Darparu diweddariad achlysurol i’r Gweinidog (drwy Gyngor Partneriaeth y Gymraeg) ar gynnydd y rhaglen
  3. Rhannu gwybodaeth a rhagweld blaenoriaethau perthnasol yn y maes
  4. Gwneud cynigion i gynllunio rhaglen waith 5 mlynedd i hybu’r defnydd o’r Gymraeg
  5. Darparu cyngor ar unrhyw newidiadau strwythurol a allai godi wrth ddiwygio’r Mesur o safbwynt hybu defnydd o’r Gymraeg.

 

Aelodaeth y Bwrdd Cynllunio

  • Rhian Huws Williams (Cadeirydd)
  • Heini Gruffudd (Dyfodol i’r Gymraeg)
  • Lowri Hughes (Prifysgol Bangor)
  • Morgan Lloyd (Dŵr Cymru)
  • Myfanwy Jones (Cyngor Sir Gâr)
  • Rhodri ap Dyfrig (S4C)

 

Wrth ymgymryd â’r swyddogaethau uchod, cafwyd mewnbwn y Bwrdd i feysydd gan gynnwys yr isod:

  • Grant Arloesi i Hybu’r Gymraeg a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2017-18
  • Rhwydwaith Cymraeg Byd Busnes (rhwydwaith o swyddogion i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn busnesau preifat bach)
  • Pwynt cyswllt i ddarparu gwybodaeth a darparu cyfieithiadau byrion yn rhad ac am ddim (i’w lansio nes ymlaen eleni)
  • Rhaglen Deall Dwyieithrwydd: rydym wrthi’n datblygu rhaglen “Arwain mewn cenedl ddwyieithog” drwy Academi Wales
  • Polisi Trosglwyddo’r Gymraeg rhwng y cenedlaethau (i’w gyhoeddi yn nes ymlaen eleni)
  • Ymyraethau Newid Ymddygiad amrywiol
  • Ymgyrchoedd marchnata a naratif am y Gymraeg
  • Creu a gweithredu ymgyrchoedd cenedlaethol i annog defnyddio’r Gymraeg