WAQ78488 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/07/2019

A wnaeth y Cynulliad estyn gwahoddiad i'w Mawrhydi y Frenhines i annerch Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel rhan o ddathliadau 20 mlwyddiant datganoli?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Cynulliad | Wedi'i ateb ar 08/07/2019

Cytunodd y Comisiwn ar ei raglen o ddigwyddiadau i nodi ugain mlynedd o ddatganoli ym mis Mawrth 2019. Roedd y rhaglen yn cynnig cyfleoedd i fyfyrio ar y cyfnod hwnnw ac i bobl Cymru drafod eu dyfodol hwy a dyfodol democratiaeth yng Nghymru. Nid oes unrhyw ymweliadau Brenhinol wedi’u cynllunio ar gyfer eleni.