A wnaiff y Gweinidog ymhelaethu ar natur pob un o’r cwynion am gydymffurfiaeth â safonau’r Gymraeg sy’n cael eu crybwyll yn adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar gydymffurfio gyda safonau’r Gymraeg 2018-19?
Wele’r tabl isod:
Cyfeirnod |
Natur y Gwyn |
Categori’r Safon |
Canlyniad |
1 |
E-bost Saesneg (“covering email”) oedd yn cyd-fynd gyda gohebiaeth Cymraeg wedi’i anfon at ohebydd drwy gamgymeriad |
Cyflenwi Gwasanaeth |
Dyfarnwyd bod Gweinidogion Cymru wedi methu â chydymffurfio. |
2 |
Proses recriwtio gan gyflenwr trydydd parti i Banel yn uniaith Saesneg |
Cyflenwi Gwasanaeth |
Dyfarnwyd bod Gweinidogion Cymru wedi methu â chydymffurfio.
|
3 |
Neges uniaith Saesneg ar Uned Negeseuon Electronig ar gefnffordd |
Cyflenwi Gwasanaeth |
Penderfynwyd peidio â chynnal ymchwiliad. |
4 |
Dogfennau ymgynghori Saesneg yn unig ar wefan trydydd parti a dim cofnod o asesiad effaith ar y Gymraeg |
Cyflenwi Gwasanaeth |
Penderfynwyd peidio â chynnal ymchwiliad.
|
5 |
Gwasanaeth ffôn uniaith Saesneg gan ganolfan alwadau trydydd parti |
Cyflenwi Gwasanaeth |
Penderfynwyd peidio â chynnal ymchwiliad. |
6 |
Ymgynghoriad a gynhaliwyd ddim yn gofyn cwestiynau am effeithiau’r polisi dan sylw ar yr iaith Gymraeg |
Llunio Polisi |
Penderfynwyd peidio â chynnal ymchwiliad. |
7 |
Ariannu prosiect diwylliannol i ysgolion drwy grant - dim darpariaeth Gymraeg |
Llunio Polisi |
Penderfynwyd peidio â chynnal ymchwiliad. |
8 |
Diffyg polisi ar gyfer darparu gwersi Cymraeg i ffoaduriaid a cheiswyr lloches |
Llunio Polisi |
Penderfynwyd peidio â chynnal ymchwiliad. |
9 |
Achwynydd wedi derbyn gohebiaeth yn Saesneg gan drydydd parti |
Cyflenwi Gwasanaeth |
Ymchwiliad yn parhau. |
10 |
Achwynydd wedi derbyn e-bost uniaith Saesneg gan drydydd parti |
Cyflenwi Gwasanaeth |
Penderfynwyd peidio â chynnal ymchwiliad. |
11 |
Cwyn am dri o gyfrifon Twitter yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol. |
Cyflenwi Gwasanaeth |
Dyfarnwyd bod Gweinidogion Cymru wedi methu â chydymffurfio. |
12 |
Achwynydd wedi derbyn llythyr uniaith Saesneg a holiadur gan gontractwr allanol. |
Cyflenwi Gwasanaeth |
Ymchwiliad yn parhau.
|
13 |
Pennawd a throedyn ar lythyr Cymraeg gan drydydd parti yn ymddangos yn uniaith Saesneg.
|
Cyflenwi Gwasanaeth |
Ymchwiliad yn parhau. |
14 |
Achwynydd wedi derbyn ateb yn Saesneg yn unig, i e-bost a anfonodd yn Gymraeg, gan asiant yn gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru. |
Cyflenwi Gwasanaeth |
Penderfynwyd peidio â chynnal ymchwiliad. |
15 |
Achwynydd wedi derbyn e-bost yn uniaith Saesneg mewn perthynas â phroses recriwtio lle oedd y gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol. |
Cyflenwi Gwasanaeth |
Penderfynwyd peidio â chynnal ymchwiliad. |
16 |
Gohebiaeth a gwasanaeth dros y ffôn yn uniaith Saesneg gan drydydd parti i unigolyn â’r Gymraeg yn ddewis iaith. |
Cyflenwi Gwasanaeth |
Dyfarnwyd bod Gweinidogion Cymru wedi methu â chydymffurfio.
|
17 |
Honiad fod Gweinidogion Cymru wedi penodi dau aelod i Fwrdd allanol a oedd yn ddi-Gymraeg. |
Cyflenwi Gwasanaeth |
Penderfynwyd peidio â chynnal ymchwiliad. |
18 |
Honiad nad oedd fersiwn Cymraeg a Saesneg o ddogfen ymgynghorol yn cyfateb |
Cyflenwi Gwasanaeth |
Ymchwiliad yn parhau. |
19 |
Taflen wybodaeth yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. |
Cyflenwi Gwasanaeth |
Penderfynwyd peidio â chynnal ymchwiliad. |
20 |
Ymgynghoriad a gynhaliwyd ar y cyd yn Saesneg yn unig.
|
Cyflenwi Gwasanaeth |
Ymchwiliad yn parhau.
|
21 |
Honiad bod cyfrif Twitter yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. |
Cyflenwi Gwasanaeth |
Penderfynwyd peidio â chynnal ymchwiliad. |
22 |
Honiad nad oedd ffurflen ar gael yn Gymraeg. |
Cyflenwi Gwasanaeth |
Penderfynwyd peidio â chynnal ymchwiliad. |
23 |
Honiad bod yr achwynydd wedi methu â chofrestru manylion yn llawn yn Gymraeg ar wefan. |
Cyflenwi Gwasanaeth |
Penderfynu peidio â chynnal ymchwiliad. |
24 |
Honiad bod adrannau o dudalennau Cymraeg ar wefan yn ymddangos yn uniaith Saesneg. |
Cyflenwi Gwasanaeth |
Achwynydd wedi tynnu’r gwyn yn ôl. |
25 |
Honiad bod yr achwynydd wedi derbyn ymateb uniaith Saesneg i ohebiaeth cyfrwng Cymraeg. |
Cyflenwi Gwasanaeth |
Ymchwiliad yn parhau.
|
26 |
Diffyg arwyddion Cymraeg mewn siop |
Cyflenwi Gwasanaeth |
Ymateb wedi’i ddarparu. |
27 |
Anfonwyd cylchlythyr yn uniaith Saesneg i dderbynnydd â’r Gymraeg yn ddewis iaith iddo. |
Cyflenwi Gwasanaeth |
Ymateb wedi’i ddarparu. |
28 |
Derbyniwyd cwyn fod cyfrif Instagram yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg |
Cyflenwi Gwasanaeth |
Ymateb wedi’i ddarparu. |
29 |
Derbyniwyd cwyn fod digwyddiad cyhoeddus yn Saesneg yn unig. |
Cyflenwi Gwasanaeth |
Ymateb wedi’i ddarparu. |
30 |
Derbyniwyd cwyn am safon y Gymraeg mewn hysbysiad dwyieithog yn hysbysebu cyfarfod cyhoeddus |
Cyflenwi Gwasanaeth |
Ymateb wedi’i ddarparu. |
31 |
Derbyniwyd cwyn am ddigwyddiad cyhoeddus a'r diffyg o ran y Gymraeg yn y digwyddiad. |
Cyflenwi Gwasanaeth |
Ymateb wedi’i ddarparu. |
32 |
Derbyniwyd cwyn fod dogfen Gymraeg ar wefan yn anghyflawn, gyda thudalen ar goll o’r fersiwn Cymraeg |
Cyflenwi Gwasanaeth |
Ymateb wedi’i ddarparu. |
33 |
Derbyniwyd cwyn am gyfrif Instagram yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol |
Cyflenwi Gwasanaeth |
Ymateb wedi’i ddarparu. |
34 |
Dogfen Saesneg wedi’i chylchredeg gan drydydd parti cyn dogfen Gymraeg |
Cyflenwi Gwasanaeth |
Ymateb wedi’i ddarparu. |
35 |
Derbyniwyd cwyn fod deunyddiau marchnata digwyddiad gan drydydd parti yn uniaith Saesneg. |
Cyflenwi Gwasanaeth |
Ymateb wedi’i ddarparu. |
36 |
Cwyn am safon iaith dysgwyr a ymddangosodd mewn hysbyseb gan drydydd parti. |
Cyflenwi Gwasanaeth |
Ymateb wedi’i ddarparu. |
37 |
Derbyniwyd cwyn fod gwallau sillafu ar wefan Llywodraeth Cymru. |
Cyflenwi Gwasanaeth |
Ymateb wedi’i ddarparu. |
38 |
Derbyniwyd cwyn fod gwall sillafu ar wefan Llywodraeth Cymru. |
Cyflenwi Gwasanaeth |
Ymateb wedi’i ddarparu. |