WAQ78486 (w) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2019

Ymhellach i WAQ77338, a wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd wrth gytuno ar bolisi defnydd mewnol o'r Gymraeg yng ngweinyddiaeth Llywodraeth Cymru?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol | Wedi'i ateb ar 09/07/2019

Bu Bwrdd Llywodraeth Cymru yn trafod y mater hwn yn ei gyfarfod ym mis Mai, ac yn ystod y cyfarfod ystyriwyd papur yn diweddaru’r wybodaeth sydd mewn adroddiad a ddrafftiwyd gan Grŵp Tasg a Gorchwyl yn 2017. Roedd y papur diweddara hwn i’r Bwrdd yn ystyried natur uchelgais y Llywodraeth o ran y Gymraeg ar gyfer y dyfodol, y cynnig dysgu sydd ar gael heddiw i staff Llywodraeth Cymru i ddatblygu neu wella eu sgiliau Cymraeg, ac yn trafod enghreifftiau o arfer dda ar draws y sector gyhoeddus yng Nghymru. Yn ystod yr un cyfarfod gwahoddwyd Comisiynydd y Gymraeg i gyflwyno ei weledigaeth ef ar gyfer y rôl i’r Bwrdd. Bydd y Comisiynydd yn dychwelyd ym mis Medi i gyfarfod gyda un o dimoedd rheoli’r Llywodraeth, sef Grŵp yr Uwch Arweinwyr, i drafod amcanion y polisi arfaethedig ar ddefnydd mewnol y Gymraeg. Bydd ymrwymiadau Cymraeg 2050 yn greiddiol i’r polisi hwn, a bydd y polisi yn fodd o sicrhau fod Llywodraeth Cymru, fel cyflogwr blaenllaw yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, yn ymateb yn llawn i’r her o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050.