Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ymdrin â phroblemau traffig a pharcio yng nghyffinau Llyn Ogwen yng Ngwnyedd?
Mae astudiaeth ddichonoldeb sy’n edrych ar broblemau parcio mewn amryfal leoliadau ar yr A5, yng nghyffiniau Bwthyn Ogwen a Llyn Ogwen, wedi cael ei chwblhau. Nodwyd opsiynau ar gyfer y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir ac mae trafodaethau wedi dechrau gyda rhanddeiliaid er mwyn bwrw ymlaen â chamau y bydd modd eu cymryd yn gyflym.
Mae’r camau tymor byr yn cynnwys cyflwyno cyfyngiadau ar barcio yng nghyffiniau Bwthyn Ogwen hyd at Bont Pen-y-benglog. Rydym wrthi’n ymgynghori â rhanddeiliaid am y mater hwn. Cam arall y gellir ei gymryd yn y tymor byr yw gwella arwyddion ar gyfer y meysydd parcio sy’n bodoli eisoes, a byddwn yn bwrw ymlaen â’r gwaith hwnnw eleni.
Ymhlith yr opsiynau ar gyfer y tymor canolig a’r tymor hir y mae creu cymaint o leoedd parcio ag y bo modd yn y meysydd parcio sy’n bodoli eisoes a chyflwyno mannau parcio newydd o fewn ffin bresennol y briffordd. Mae’r gwaith dylunio ar gyfer yr opsiynau hyn yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Wrth fynd at i flaenoriaethu cyllid ar gyfer unrhyw waith, bydd yn rhaid ystyried cynlluniau tebyg eraill ledled y wlad.
Mae swyddogion hefyd yn cydweithio ag amryfal randdeiliaid i edrych ar wasanaeth Parcio a Theithio rhwng Bethesda a Llyn Ogwen.