WAQ78393 (w) Wedi’i gyflwyno ar 13/06/2019

A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa newidiadau sydd ar y gweill ar gyfer gwasanaethau wroleg yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 21/06/2019

Mae cynllun gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gyfer 2019-20 yn cynnwys datblygu strategaeth glinigol ar gyfer wroleg. Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu modelau gofal posib ar gyfer y dyfodol i ddiwallu anghenion bobl leol.

Ar hyn o bryd, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnal adolygiad o'r holl wasanaethau wroleg gyda'r bwriad o ddatblygu strategaeth wroleg glinigol ar gyfer y Gogledd. Mae'r gwaith hwn yn cynnwys datblygu'r achos busnes ar gyfer darparu llawdriniaethau gyda chymorth robotig yn y Gogledd – mae'r achos bron yn barod, ac fe fydd yn cael ei ystyried gan y Bwrdd.

Wrth i'r cynllun strategol gael ei ddatblygu, mae gwaith yn parhau i wella gwasanaethau yn gyson â'r Rhaglen Genedlaethol Gofal Wedi'i Gynllunio ar gyfer Wroleg:

  • Ar ôl derbyn Canllawiau NICE, mae'r gwasanaeth radioleg wedi cynhyrchu cynllun gweithredu sydd wedi'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru ar gyfer dechrau sganio MP-MRI mewn dau gam.
  • Mae gwaith yn mynd rhagddo i brynu a chynnal system Tracio PSA; bydd hyn yn helpu'r dynion sydd ar lwybr gofal monitro PSA i reoli eu hunain. O ganlyniad, bydd llai o ofyn am apwyntiadau cleifion allanol diangen. Ar ôl i'r broses gaffael ddod i ben, disgwylir y bydd y system yn dod yn weithredol yn ystod pedwerydd chwarter 2019/20.

Mae rhaglenni theatr a chleifion allanol yn cael eu datblygu er mwyn ysgogi cynhyrchiant ac effeithlonrwydd mewnol i helpu i leihau rhestrau aros ar gyfer atgyfeiriadau ac apwyntiadau dilynol. Bydd ymgyrch genedlaethol yn cychwyn yn ystod ail chwarter 2019/20 i recriwtio i swyddi wrolegwyr ymgynghorol ar draws y Gogledd.