Pa ddadansoddiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o broses ddeisebau'r Cynulliad, gan gynnwys nifer yr unigolion o'r tu allan i Gymru sy'n llofnodi deisebau?
Nid yw Comisiwn y Cynulliad wedi cynnal dadansoddiad o broses ddeisebau'r Cynulliad. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol bod y Pwyllgor Deisebau wedi ystyried cwestiynau'n ymwneud â chymhwyster i lofnodi deisebau ar sawl achlysur.
Wrth gynnal adolygiad o'r broses ddeisebau, trafododd Pwyllgor Deisebau’r Pedwerydd Cynulliad amrywiaeth o agweddau ar y broses, gan gynnwys pwy ddylai allu cyflwyno a llofnodi deisebau. Cynhaliodd y Pwyllgor arolwg ar-lein a chafodd dystiolaeth gan ddeisebwyr a rhanddeiliaid. Un o’r argymhellion yn ei adroddiad, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2016, oedd mai dim ond pobl neu sefydliadau yng Nghymru ddylai allu cyflwyno deisebau, ond na ddylid cyfyngu ar bwy all eu llofnodi.
Mae'r Pwyllgor Deisebau presennol wedi cyflwyno nifer o newidiadau i'r broses ddeisebau yn ystod y Pumed Cynulliad, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol i unigolion neu sefydliadau sy'n cyflwyno deiseb roi cyfeiriad yng Nghymru ac i’r holl ddeisebau ar-lein gasglu llofnodion drwy ddefnyddio system e-ddeisebau'r Cynulliad.
Trafododd y Pwyllgor faterion yn ymwneud â chymhwyster i lofnodi deisebau eto ar 21 Mai 2019 a phenderfynodd beidio â chynnig unrhyw gyfyngiadau. Fodd bynnag, mae'r Pwyllgor wedi penderfynu y bydd, yn y dyfodol, yn ystyried faint o lofnodion a gesglir o Gymru wrth benderfynu a ddylid gofyn am amser yn y Cyfarfod Llawn i gynnal dadl ar ddeisebau sydd â dros 5000 o lofnodion.