WAQ78373 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/06/2019

Ymhellach i'r sylwadau yn y Cyfarfod Llawn ar 15 Ionawr 2019, a wnaiff y Gweinidog amlinellu: aelodaeth; cylch gorchwyl; a'r gwaith a wnaed gan y gweithgor a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â Ford?

Wedi'i ateb gan Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth | Wedi'i ateb ar 20/06/2019

Sefydlwyd Gweithgor Ford ym mis Hydref 2017, dan gadeiryddiaeth Llywodraeth Cymru. Roedd aelodau’r Gweithgor yn cynnwys cynrychiolwyr o Ford Europe, Ford UK, Swyddfa Cymru, Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU, Fforwm Moduro Cymru a’r Undeb Unite.

Cylch gorchwyl y gweithgor oedd ystyried y cyfleoedd posibl ar gyfer gweithgynhyrchu celloedd batri ar safle Peiriannau Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn gwarchod swyddi a diogelu dyfodol y safle ar ôl 2020.

Cyflwynodd y Gweithgor adroddiad ym mis Rhagfyr 2017, gan gadarnhau diffyg unrhyw gyfleoedd mewnol o ran cynhyrchion a hefyd ddiffyg prosiectau cysylltiedig â Faraday. Argymhellodd y Gweithgor y dylid datblygu cynnig a fyddai’n pennu cyfleoedd posibl ar gyfer defnyddio safle Ford. Gwnaeth cyfarfodydd eraill y Gweithgor roi sylw i’r gwaith yma a arweiniodd at brosiect Ineos.

Gwnaeth y Gweithgor gyfarfod 11 o weithiau ar y dyddiadau canlynol: 30 Hydref 2017, 13 Tachwedd 2017, 27 Tachwedd 2017, 11 Rhagfyr 2017, 18 Rhagfyr 2017, 29 Ionawr 2018, 8 Chwefror 2018, 24 Ebrill 2018, 12 Mehefin 2018, 9 Gorffennaf 2018 ac 18 Mawrth 2019.