WAQ78363 (w) Wedi’i gyflwyno ar 11/06/2019

Pam na fydd holl staff Swyddfa’r Comisiynydd Traffig yn cael eu lleoli gyda’i gilydd?

Wedi'i ateb gan Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth | Wedi'i ateb ar 17/06/2019

Bydd swyddfa newydd Comisiynydd Traffig Cymru wedi’i lleoli yng Nghaernarfon, Gogledd Cymru, o fewn swyddfa Penrallt sy’n eiddo i Gyngor Gwynedd. Bydd y swyddfa hon yn ychwanegol at y swyddfa bresennol yng Nghaerdydd. Bydd fy swyddogion yn parhau i gydweithio â Trafnidiaeth Cymru er mwyn creu lle i’r Comisiynydd yn adeilad Trafnidiaeth Cymru ym Mhontypridd pan fydd yn barod yn 2021. Bydd y swyddfa newydd yng Nghaernarfon yn barod yn fuan.

Mae’r gwaith o recriwtio tri aelod o staff cymorth a fydd yn gweithio yn yr un swyddfa yng Nghaernarfon eisoes wedi cychwyn a bydd y cyfweliadau’n cael eu cynnal yn ystod mis Gorffennaf. Disgwylir i’r ymgeiswyr llwyddiannus gael eu penodi’n fuan wedyn.

Mae fy swyddogion yn cydweithio’n agos â’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau ac â Swyddfa’r Comisiynydd Traffig er mwyn cyflawni’r ddwy elfen.

Dyma newyddion gwych i Ogledd-orllewin Cymru ac economi leol Caernarfon. Mae hefyd yn newyddion gwych i’r diwydiannau PSV a HGV yng Nghymru.