WAQ78361 (w) Wedi’i gyflwyno ar 11/06/2019

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o ba siwrneau sydd fwyaf poblogaidd gan ddeiliad Cardiau Teithio Rhatach?

Wedi'i ateb gan Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth | Wedi'i ateb ar 17/06/2019

Ar 31 Mawrth 2019 roedd 31,491 o gardiau teithio rhatach “byw” yng Ngwynedd. O blith y rhain, cafodd 15,441 eu defnyddio yn ystod 2018-19 ar gyfer 1,231,010 o deithiau yn ystod y cyfnod. Golyga hyn nifer cyfartalog o ychydig llai nag 80 o deithiau fesul deiliad.  

Nid ydym yn cadw data sy’n nodi rhesymau penodol deiliaid cardiau teithio rhatach dros deithio. Rydym wedi sicrhau y gall deiliaid cardiau ddefnyddio eu cardiau i deithio am ddim ar fysiau ar draws Cymru, a hynny bob awr o’r dydd ac at unrhyw ddiben. Gall y teithiau gynnwys rhai i gyrraedd lleoliadau addysg, hyfforddiant, gwaith neu ddigwyddiadau cymdeithasol, a hefyd deithiau ar gyfer  tripiau dydd.

Mae deiliaid cardiau teithio yn cynrychioli bron i hanner yr holl deithiau ar fysiau yng Nghymru, sy’n tystio i boblogrwydd y cynllun. Mae felly’n gynllun hollbwysig ar gyfer cynnal rhwydwaith bysiau sefydlog a mwy cynaliadwy.