WAQ78344 (w) Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2019

A oes gan Lywodraeth Cymru lawlyfr deddfwriaeth ar gyfer paratoi is-ddeddfwriaeth?

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog | Wedi'i ateb ar 17/06/2019

Cafodd fersiwn gyntaf o lawlyfr deddfwriaeth ar gyfer is-ddeddfwriaeth ei datblygu gan swyddogion Llywodraeth Cymru y llynedd, ac mae hwn wedi cael ei ddefnyddio’n fewnol. Mae’r llawlyfr yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru ar hyn o bryd, a byddwn yn cyhoeddi’r fersiwn wedi’i diweddaru ar ôl i’r gwaith hwn ddod i ben. Yn ogystal â hyn, mae Canllawiau Drafftio Swyddfa’r Cwnsleriaid Deddfwriaethol, a gyhoeddwyd ddiwethaf yn 2012, yn berthnasol i lunio Offerynnau Statudol. Mae’r Canllawiau hyn hefyd yn cael eu diweddaru a’u hymestyn a byddant yn cael eu cyhoeddi ar eu ffurf ddiwygiedig yn hwyrach yn ystod y flwyddyn.