WAQ78334 (w) Wedi’i gyflwyno ar 04/06/2019

A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi rheolau sefydlog Cyngor Partneriaeth y Gymraeg a wnaed yn unol ag adran 149(5) Mesur y Gymraeg 2011?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol | Wedi'i ateb ar 10/06/2019

Mae rheolau sefydlog Cyngor Partneriaeth y Gymraeg wedi eu darparu yn yr Atodiad isod.

 

Atodiad

Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

 

RHEOLAU SEFYDLOG

 

1.    Cyflwyniad

 

1.1. Sefydlir Cyngor Partneriaeth y Gymraeg (“y Cyngor Partneriaeth”) o dan adran 149 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”).

 

1.2. Mae adran 149 yn gwneud darpariaethau ynghylch sefydlu a chyfansoddiad y Cyngor Partneriaeth a phenodi ei aelodau. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheolau sefydlog ar gyfer y Cyngor Partneriaeth, ar ôl ymgynghori ag aelodau’r Cyngor Partneriaeth.

2. Aelodaeth

 

2.1 Aelodau y Cyngor Partneriaeth yw;

 

2.1.1 pa un bynnag o Weinidogion Cymru sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg; ac

 

2.1.2 personau wedi eu penodi gan Weinidogion Cymru o blith

 

(i) Gweinidogion Cymru,

 

(ii) Dirprwy Gweinidogion Cymru,

 

(iii) personau mae’n ymddengys i Weinidogion Cymru fod ganddynt brofiad o faterion yn ymwneud a’r Gymraeg,

 

(iv) personau y mae’n ymddengys i Weinidogion Cymru fod ganddynt brofiad sy’n berthnasol i roi cyngor neu gyflwyno sylwadau ynghylch y strategaeth iaith Gymraeg a fabwysiadwyd o dan adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (gan gynnwys y cynllun sy’n nodi sut y bydd Gweinidogion Cymru yn cyflawni’r strategaeth) a gwneud unrhyw beth sy’n briodol ym marn y Cyngor Partneriaeth ar gyfer rhoi’r cyngor neu cyflwyno’r cyngor hwnnw.

 

 

3.    Cadeirio cyfarfodydd

 

3.1. Mae’r Mesur yn darparu mai pa un bynnag o Weinidogion Cymru sydd  â chyfrifoldeb dros y Gymraeg (‘y Gweinidog cyfrifol’) fydd yn cadeirio’r Cyngor Partneriaeth.

3.2. Os na all y Gweinidog cyfrifol fynychu fe fydd rhaid i’r cyfarfod gael ei ganslo.

3.3. Ond, os bydd y Gweinidog cyfrifol yn methu mynychu ac os na fydd digon o amser i ganslo’r cyfarfod, bydd y Cyngor Partneriaeth yn cael ei gadeirio gan uwch swyddog o Lywodraeth Cymru.

 

4.    Trefniadau cyfarfodydd

 

4.1. Bydd y Cyngor Partneriaeth yn cyfarfod o leiaf deirgwaith y flwyddyn, yn ystod tymor yr Haf, tymor yr Hydref a thymor y Gwanwyn. Y Gweinidog cyfrifol fydd yn trefnu’r cyfarfodydd a gall drefnu mwy o gyfarfodydd os bydd yn barnu bod eu hangen. 

 

4.2. Gall y Gweinidog cyfrifol wahodd rhai eraill o Weinidogion Cymru i gyfarfodydd y Cyngor Partneriaeth, os bydd materion yn ymwneud a’u portffolio wedi’u cynnwys yn yr agenda.

4.3. Gall swyddogion o Lywodraeth Cymru fynychu o bryd i’w gilydd (fel gwesteion)  i gynnig arbenigedd a chyngor i gynorthwyo’r Cyngor Partneriaeth yn ei waith.

 

4.4. Bydd swyddogion Is-Adran y Gymraeg yn cael mynychu’r cyfarfodydd (fel gwesteion) a chymryd rhan fel y bydd y Gweinidog cyfrifol yn mynnu a bydd yr Uned yn gweithredu fel ysgrifenyddiaeth i’r Cyngor Partneriaeth.  Byddant yn dosbarthu cofnodion cyfarfodydd a phapurau yn ôl yr angen.

 

4.5. Bydd cyfarfodydd y Cyngor Partneriaeth yn cael eu cynnal mewn swyddfa Llywodraeth Cymru neu’r Cynulliad Cenedlaethol.

 

4.6. Bydd cyfarfodydd y Cyngor Partneriaeth yn cael eu cynnal yn breifat, ond gall y Gweinidog cyfrifol wahodd aelodau o’r cyhoedd i annerch y Cyngor Partneriaeth os bydd y Gweinidog yn barnu bod angen.

 

5.    Cylch gwaith Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

 

5.1. Rôl y Cyngor Partneriaeth fydd rhoi cyngor neu gyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru mewn perthynas â strategaeth y Gymraeg a fabwysiadwyd o dan adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (gan gynnwys y Cynlluniau Gweithredu blynyddol yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni’r cynigion a nodwyd yn y strategaeth).

5.2. Yn benodol, bydd y Cyngor Partneriaeth yn cynghori ac yn cyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru ynghylch:

- strategaeth Gymraeg Gweinidogion Cymru gan gynnwys ei chynllun gweithredu blynyddol;

- cynnwys cynlluniau gweithredu blynyddol yn nodi sut y bydd y Llywodraeth yn cyflawni’r cynigion a nodwyd yn strategaeth y Gymraeg, a chynnydd o ran eu cyflawni.

5.3 Caiff y Cyngor Partneriaeth hefyd wneud unrhyw beth y mae’n ei ystyried yn rhesymol sy’n briodol at ddibenion rhoi’r cyngor hwnnw a chyflwyno’r sylwadau hynny; gan gynnwys ystyried y dystiolaeth sydd ar gael ym maes polisi iaith, a’r anghenion  am dystiolaeth ychwanegol.

 

5.4 Gall y Cyngor Partneriaeth gynnull grwpiau gorchwyl a gorffen a gweithgorau a fydd yn cynorthwyo y Cyngor Partneriaeth i ddarparu cyngor a chyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru. Bydd y rhain yn rhoi adroddiadau rheolaidd i’r Cyngor Partneriaeth ar eu gwaith.

 

Gwnaed gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

 

21 Medi 2012