WAQ78333 (w) Wedi’i gyflwyno ar 04/06/2019

A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd rhyngddi hi a chynrychiolwyr o'r rheoleiddwyr gofal iechyd proffesiynol i drafod safonau'r Gymraeg ar 29 Ebrill?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol | Wedi'i ateb ar 12/06/2019

Mae cofnodion y cyfarfod ar 29 Ebrill 2019 i'w gweld isod. Roedd cynrychiolwyr o'r rheoleiddwyr gofal iechyd canlynol yn bresennol, yn ogystal â swyddogion o Is-adran y Gymraeg Llywodraeth Cymru: y Cyngor Meddygol Cyffredinol, y Cyngor Fferyllol Cyffredinol, y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, y Cyngor Deintyddol Cyffredinol a'r Cyngor Optegol Cyffredinol

 

Mae unrhyw ddata personol y byddai eu datgelu yn torri'r Ddeddf Diogelu Data neu Reoliadau GDPR wedi cael eu cadw yn ôl.

 

1.    Diolchodd y Gweinidog i'r swyddogion a oedd yn bresennol am deithio i Gaerdydd ac am ymgysylltu â’r broses hyd yma. Dywedodd y Gweinidog fod y cyfarfod wedi cael ei drefnu ar gais y Cyngor Meddygol Cyffredinol a'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol a'i bod yn awyddus, wedi iddi dderbyn y cais, i ymestyn y gwahoddiad i bob un o’r rheoleiddwyr eraill.

 

2.    Nododd y Gweinidog fod y Rheoleiddwyr, fel cyrff, wedi ymgysylltu â’r broses safonau ers iddynt fod yn ddarostyngedig i ail ymchwiliad safonau'r Comisiynydd. Rhoddodd y Gweinidog grynodeb o'r hyn a oedd wedi digwydd hyd yma, ac atgoffodd y Rheoleiddwyr fod y penderfyniad wedi cael ei wneud ar ôl iddynt ymateb i'r ymgynghoriad ar y rheoliadau drafft ar gyfer y sector iechyd i ddatblygu Rheoliadau penodol ar eu cyfer hwy yn hytrach na'u gwneud yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau Rhif 4 a oedd wedi’u gwneud eisoes. Amlinellodd y Gweinidog hefyd fod oedi wedi bod mewn perthynas â'r gwaith ar safonau'r Gymraeg wrth i’r Llywodraeth benderfynu a ddylid parhau ai peidio â Bil y Gymraeg newydd. Aeth y Gweinidog ymlaen i egluro bod Gweinidogion wedi penderfynu peidio â pharhau â'r Bil ac eglurodd yn fras y rhesymau dros wneud hynny a oedd wedi'u cyhoeddi mewn datganiad.

3.    Aeth y Gweinidog ymlaen i egluro mai gweld cynnydd yn y defnydd o'r Gymraeg oedd ei blaenoriaeth hi fel Gweinidog ac y bydd yn ymwybodol, wrth ailddechrau'r gwaith ar safonau'r Gymraeg, fod angen ceisio sicrhau bod y safonau yn cyfrannu at nodau Cymraeg 2050 ac yn chwarae rhan hefyd i gynyddu’r defnydd o'r Gymraeg. Dywedodd ei bod yn dymuno osgoi gorfodi unrhyw safonau diangen na fyddent yn golygu bod mwy o gyfle gan y cyhoedd i ddefnyddio'r Gymraeg wrth ymgysylltu â hwy fel cyrff.

 

4.    Dywedodd cynrychiolydd y Cyngor Fferyllol Cyffredinol fod y Rheoleiddwyr yn ddiolchgar i Weinidogion Cymru am benderfynu datblygu rheoliadau penodol ar eu cyfer a dywedodd hefyd eu bod fel grŵp yn ddiolchgar i swyddogion Llywodraeth Cymru am gyfathrebu'n effeithiol â hwy drwy gydol y broses. Er gwaetha'r oedi, diolchodd i swyddogion Llywodraeth Cymru am eu hysbysu ynghylch y datblygiadau diweddaraf. 

 

5.    Aeth cynrychiolydd y Cyngor Fferyllol Cyffredinol ymlaen i atgoffa'r Gweinidog mai eu prif bryder, fel cyrff a ariennir gan rai sydd wedi cofrestru, oedd pe byddent yn cael eu gorfodi i gynyddu eu darpariaeth iaith Gymraeg o ganlyniad i safonau, y byddai rhaid iddynt gynyddu eu ffioedd i rai sy'n cofrestru. Rhaid i gynnydd mewn ffioedd i'r rhai sy'n cofrestru gael ei gymeradwyo gan Lywodraeth y DU. Mae Llywodraeth y DU wedi hysbysu’r Rheoleiddwyr nad ydynt yn dymuno gweld cynnydd mewn ffioedd ac mae unrhyw ymgais i gynyddu ffioedd yn y gorffennol wedi bod yn destun dadl yn San Steffan.

6.    Nodwyd bod y Rheoleiddwyr wedi bod yn cydymffurfio â Chynlluniau Iaith Gymraeg ers blynyddoedd lawer ac, er bod y galw yn y gorffennol am wasanaethau Cymraeg wedi bod yn isel, roeddynt wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau iaith Gymraeg.

 

7.    Dywedodd y Gweinidog fod swyddogion polisi a chyfreithwyr wedi bod yn gweithio ar set o Reoliadau drafft, nad ydynt yn gwbl derfynol ar hyn o bryd. Gofynnodd y Gweinidog i swyddogion roi'r diweddaraf i'r rheini a oedd yn bresennol ar ddatblygiad y Rheoliadau.

 

8.     Nododd swyddogion o Is-adran y Gymraeg rai o'r prif bwyntiau polisi sy'n deillio o'r Rheoliadau drafft, sy'n cynnwys:

o   Ni fyddai’r safonau yn berthnasol i'r defnydd o'r Gymraeg ar lafar mewn gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer gan fod hyn yn dod o dan yr hawl i ddefnyddio'r Gymraeg mewn achosion cyfreithiol yn Neddf yr Iaith Gymraeg 1993. Cytunodd y rheoleiddwyr eu bod yn ystyried gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer fel achosion cyfreithiol a'u bod felly yn dod o fewn cwmpas Deddf yr Iaith Gymraeg.

o   Byddai'r safonau yn berthnasol i'r ymgysylltiad rhwng y cyrff ac aelodau o'r cyhoedd – a byddai nifer cyfyngedig o safonau yn berthnasol i wasanaethau penodol a ddarperir i'r rheini sydd wedi cofrestru.

o   Byddai nifer cyfyngedig o safonau gweithredol yn cael eu cymhwyso i'r cyrff, sef asesu'r gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer swyddi newydd a swyddi sy’n dod yn wag a darparu cyrsiau ymwybyddiaeth iaith i bob aelod o staff. Dywedodd y swyddogion fod y safonau hyn wedi'u cynllunio i helpu'r cyrff i gynnig gwasanaethau gwell ymhen amser o dan eu safonau cyflenwi gwasanaethau.

o   Nodwyd y byddai nifer y safonau ynghylch cadw cofnodion a safonau atodol yn cael eu lleihau o'u cymharu â rheoliadau a wnaed yn flaenorol – roedd hyn yn dilyn yr egwyddorion a amlinellir yn y Papur Gwyn, sef lleihau biwrocratiaeth sy'n gysylltiedig â'r safonau a symleiddio'r broses er mwyn targedu ymdrechion at wella gwasanaethau a chynyddu'r defnydd a wneir o wasanaethau Cymraeg.

o   Cadarnhawyd y byddai pob corff yn cael ei drin yn yr un modd yn y Rheoliadau ac nad oeddynt yn bwriadu gorfodi rhagor  o safonau ar y Cyngor Meddygol Cyffredinol gan fod ganddynt swyddfa weinyddol fach yng Nghaerdydd. Dywedodd cynrychiolydd y Cyngor Meddygol Cyffredinol eu bod yn ddiolchgar am y dull hwn oherwydd nad oedd eu swyddfa ar agor i'r cyhoedd yn gyffredinol ac nad oeddynt yn darparu gwasanaethau yn uniongyrchol i'r cyhoedd. Dywedodd hefyd mai hwn oedd y dull cywir oherwydd gallai cyrff eraill benderfynu peidio ag agor swyddfa yng Nghymru pe byddent yn ddarostyngedig i ragor o safonau wedi iddynt wneud hynny.

o   Cadarnhaodd swyddogion fod Llywodraeth Cymru yn ystyried cynlluniau iaith Gymraeg y cyrff fel sylfaen ac y byddai'n adeiladu arnynt, a nodwyd eu bod o'r farn y byddai safonau yn rhoi mwy o eglurder i'r cyrff a'r cyhoedd ynglŷn â pha wasanaethau fyddai ar gael yn Gymraeg. Nododd y cyrff eu bod yn cydsynio â'r farn hon a dywedont eu bod yn cytuno hefyd fod rhai agweddau ar y cynlluniau presennol yn annelwig.

 

9.    Dywedodd cynrychiolydd y Cyngor Fferyllol Cyffredinol, fel Rheoleiddwyr eu hunain, fod ganddynt brofiad o ymdrin â gofynion statudol a'u bod felly yn gallu gweld manteision y system safonau. Fodd bynnag, dywedodd hefyd fod rhai elfennau o'r system yn achos penbleth i'r Rheoleiddwyr, fel y gallu sydd gan y Rheoleiddiwr i ddewis pa safonau i'w gorfodi ar gyrff a'u rheoleiddio. Roedd hyn yn wahanol i’r rheoliadau gofal iechyd proffesiynol yr oeddynt yn gweithio'n unol â hwy, lle byddai'r Llywodraeth ei hun yn gosod y safonau a hwythau yn rheoleiddio cydymffurfiaeth. Nododd y Gweinidog eu sylwadau.

10. Dywedodd y Gweinidog, fel y trafodwyd, fod y gwaith o baratoi safonau ar gyfer y cyrff yn mynd rhagddo'n dda. Fodd bynnag, dywedodd fod yr ansicrwydd deddfwriaethol presennol ynghylch Brexit a'r adnodd polisi a'r adnodd cyfreithiol a oedd yn cael ei neilltuo i faterion yn gysylltiedig â Brexit yn golygu ei bod yn anodd cynnig amserlen bendant ar gyfer cyflwyno Rheoliadau. Cadarnhaodd y Gweinidog y byddai swyddogion Is-adran y Gymraeg yn parhau i ymgysylltu â'r cyrff gan sicrhau eu bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd.

 

Diolchodd cynrychiolydd y Cyngor Fferyllol Cyffredinol i'r Gweinidog unwaith yn rhagor am gyfarfod â hwy a chadarnhau y byddai'n hapus i drafod unrhyw gwestiynau ynghylch polisi a fyddai'n codi wrth i safonau gael eu datblygu.