Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i sicrhau swyddfa ar gyfer Comisiynydd Traffig Cymru, gan gynnwys staff gweinyddol gyda rheolaeth staff ar yr un safle?
Dechreuodd Comisiynydd Traffig Cymru weithio yn ei swyddfa yn Ne Cymru, sydd yng Nghaerdydd, yn ystod mis Mai 2019. Mae swyddogion wrthi’n cydweithio â Trafnidiaeth Cymru er mwyn creu lle i’r Comisiynydd yn adeilad Trafnidiaeth Cymru ym Mhontypridd cyn gynted ag y bydd yr adeilad yn barod yn 2021.
Byddwn yn cyllido swyddi tri aelod newydd ac amser llawn o staff a fydd yn ddwyieithog ac a fydd yn cael eu recriwtio a’u cyflogi gan yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau. Ni lwyddodd yr Asiantaeth i benodi ymgeiswyr addas yn Ne Cymru ac mae bellach yn canolbwyntio ar Ogledd Cymru, lle rydym yn cydweithio â’r Comisiynydd Traffig i sicrhau safle yng Nghaernarfon ar gyfer y staff cymorth hyn. Rydym bron â chwblhau’r gwaith o drafod prydles ar safle sy’n eiddo i Gyngor Gwynedd.