WAQ78309 (w) Wedi’i gyflwyno ar 29/05/2019

Ym mha le y gellir dod o hyd i lythyrau cylch gwaith blynyddol Cyngor y Gweithlu Addysg?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Addysg | Wedi'i ateb ar 06/06/2019

Cafodd Cyngor y Gweithlu Addysg ei sefydlu o dan Ddeddf Addysg Cymru (2014) fel rheoleiddiwr annibynnol yng Nghymru ar gyfer athrawon mewn ysgolion a gynhelir a sefydliadau Addysg Bellach yn ogystal â staff cymorth dysgu mewn ysgolion a lleoliadau Addysg Bellach, a gweithwyr ieuenctid a phobl sy’n gysylltiedig â dysgu seiliedig ar waith.

 

O ganlyniad nid yw Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi llythyron cylch gwaith blynyddol i Gyngor y Gweithlu Addysg gan fod ei swyddogaethau wedi’u pennu yn y Ddeddf. Gellir gweld rhagor o fanylion am eu rôl isod:

 

https://www.ewc.wales/site/index.php/cy/amdanom-ni/beth-yw-cga-a-beth-yw-ein-gwaith.html