Ymhellach i sylwadau'r Prif Weinidog ar lawr y siambr ar 21 Mai 2019, a wnaiff amlinellu (a) aelodaeth, (b) cylch gorchwyl, ac (c) camau nesaf y grŵp sydd wedi'i sefydlu mewn perthynas ag argaeledd adnoddau addysgu ac adolygu cyfrwng Cymraeg?
a) Aelodaeth Grŵp Rhanddeiliaid Adnoddau Dwyieithog (hyd at Rhagfyr 2018):
Cynrychiolydd o:
CBAC
Cymwysterau Cymru
Coleg Cymraeg Cenedlaethol
CYDAG
EAS - Gwasanaeth Cyflawni Addysg De Ddwyrain Cymru
GWE - Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Gogledd Cymru
ERW - Consortia Addysg Canolbarth a Gorllewin Cymru
Consortiwm Canolbarth y De
Cyngor Llyfrau Cymru
Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru
Gwasg Prifysgol Cymru
BBC Cymru
S4C
Amgueddfa Cymru
Llywodraeth Cymru: Cynrychiolwyr o Isadran Y Gymraeg; Cyfarwyddiaeth Addysg; Isadran Digidol a Chyfathrebu Strategol
O fis Chwefror 2019 mae grŵp llai o’r rhanddeiliaid uchod wedi ei sefydlu - Grŵp Strategol Adnoddau Cymru. Mae’r rhanddeiliaid sydd ddim yn rhan o‘r Grŵp Strategol yn rhan o Banel Cynghori i ddarparu cyngor, gwneud awgrymiadau ac ymateb i benderfyniadau’r Grŵp strategol.
Grŵp Strategol Adnoddau Cymru (o Chwefror 2019)
Cynrychiolydd o:
CBAC
Cymwysterau Cymru
Coleg Cymraeg Cenedlaethol
EAS- Gwasanaeth Cyflawni Addysg De Ddwyrain Cymru
GWE - Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Gogledd Cymru
ERW - Consortia Canolbarth a Gorllewin Cymru
Consortiwm Canolbarth y De
Cyngor Llyfrau Cymru
Llywodraeth Cymru: isadrannau Y Gymraeg; Cwricwlwm ac asesu; Dysgu digidol; Addysgeg, arweinyddiaeth a dysgu proffesiynol
b) Cylch gorchwyl
Pwrpas
Pwrpas y Grŵp Rhanddeiliaid Adnoddau Addysgol Dwyieithog yw sicrhau bod rhanddeiliaid allweddol yn ymwybodol ac yn rhan o ddatblygu a sefydlu isadeiledd ar gyfer cynhyrchu adnoddau addysgol i gefnogi'r cwricwlwm a chymwysterau yng Nghymru.
Rôl y Grŵp:
· Darparu cyngor a herio’r cyfeiriad a drafodir ar gyfer cynhyrchu adnoddau addysgol dwyieithog yng Nghymru yn y dyfodol.
· Ymgysylltu'n adeiladol â Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid cyflenwi gan ddarparu argymhellion priodol.
· Gweithredu fel 'cyfaill beirniadol', gan roi adborth ar y cynigion a’r cynnydd mewn sefydlu isadeiledd, adnabod cyfleoedd, blaenoriaethau a risgiau ac awgrymu atebion.
· Cynorthwyo Llywodraeth Cymru trwy gyfathrebu negeseuon allweddol yn gadarnhaol a helpu i ddatblygu consensws ar draws y sector.
· Casglu a chyflwyno sylwadau rhanddeiliaid i Lywodraeth Cymru.
c.) Camau nesaf
· Ystyried y rhestr o anghenion am adnoddau sydd wedi’u hadnabod gan y gweithgorau Meysydd Dysgu a Phrofiad a chytuno ar gynllun tair blynedd o ddarpariaeth yn seiliedig ar flaenoriaethau cwricwlwm, cymwysterau a datblygiad proffesiynol.
· Datblygu model(au) o gyflenwi darpariaeth ddwyieithog yn y tymor byr, er mwyn cwrdd â’r gofynion cychwynnol, ac yn y tymor hir er mwyn sicrhau darpariaeth barhaol.
· Adnabod y gyllideb sydd ei hangen a’i dyrannu yn erbyn blaenoriaethau.