WAQ78295 (w) Wedi’i gyflwyno ar 22/05/2019

Ymhellach i sylwadau'r Gweinidog ar lawr y Siambr ar 22 Mai 2019, a wnaiff amlinellu (a) aelodaeth, (b) cylch gorchywl, (c) canfyddiadau cynnar, ac (ch) camau nesaf y gweithgor o ymarferwyr llywodraeth leol sydd wedi'i sefydlu i drafod premiwm a disgownt y dreth gyngor?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd | Wedi'i ateb ar 31/05/2019

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y gweithgor ar 8 Mai, ac roedd cynrychiolwyr o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ymarferwyr awdurdodau lleol, a swyddogion Llywodraeth Cymru yn bresennol. Mae’r grŵp hwn yn gyfle i ymarferwyr awdurdodau lleol roi adborth a chodi unrhyw faterion ynglŷn â sut maent yn gweithredu premiymau a disgowntiau treth gyngor. Yn y cyfarfod, bu trafodaeth am y premiwm ail gartrefi a thai amlfeddiannaeth y mae myfyrwyr yn byw ynddynt. Cytunwyd y byddai awdurdodau lleol yn darparu data lleol ar y materion hyn fel sail i drafodaethau yn y dyfodol. Cynhelir y cyfarfod nesaf fis Mehefin.