WAQ78292 (w) Wedi’i gyflwyno ar 22/05/2019

Ymhellach i sylwadau'r Gweinidog ar lawr y Siambr ar 21 Mai 2019, a wnaiff ddarparu adroddiad yn ymhelaethu ar y trafodaethau sydd wedi'u cynnal gyda "fforymau rheoleiddio" yn yr adran iechyd mewn perthynas â chyflwyno rhagor o safonau'r Gymraeg?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol | Wedi'i ateb ar 03/06/2019

Yn dilyn cais ganddynt hwy, ar 29 Ebrill cyfarfûm â chynrychiolwyr o’r rheoleiddwyr gofal iechyd proffesiynol canlynol: y Cyngor Meddygol Cyffredinol, y Cyngor Deintyddol Cyffredinol, y Cyngor Fferyllol Cyffredinol, y Cyngor Optegol Cyffredinol a’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.

 

Ni fyddaf yn llunio adroddiad ond bydd y trafodaethau’n cael eu hystyried wrth i’r gwaith ar baratoi Rheoliadau Safonau’r Gymraeg ar gyfer rheoleiddwyr gofal iechyd fynd yn ei flaen.