Ymhellach i sylwadau'r Gweinidog ar lawr y Siambr ar 21 Mai 2019, a wnaiff fanylu gyda pa "fforymau rheoleiddio" y mae trafodaethau wedi'u cynnal mewn perthynas â symud ymlaen â'r gwaith o gyflwyno rhagor o safonau'r Gymraeg?
Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol | Wedi'i ateb ar 03/06/2019
Yn dilyn cais ganddynt hwy, ar 29 Ebrill cyfarfûm â chynrychiolwyr o’r rheoleiddwyr gofal iechyd proffesiynol canlynol: y Cyngor Meddygol Cyffredinol, y Cyngor Deintyddol Cyffredinol, y Cyngor Fferyllol Cyffredinol, y Cyngor Optegol Cyffredinol a’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
Ni fyddaf yn llunio adroddiad ond bydd y trafodaethau’n cael eu hystyried wrth i’r gwaith ar baratoi Rheoliadau Safonau’r Gymraeg ar gyfer rheoleiddwyr gofal iechyd fynd yn ei flaen.