A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ynglŷn â dechrau'r buddsoddiad a chynllun safle ysbyty Machynlleth?
Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 15/05/2019
Mae’r bwrdd iechyd yn symud ymlaen gyda’r achos busnes ar ôl cael caniatâd cynllunio llawn ym mis Mawrth 2019. Mae’r bwrdd iechyd yn gweithio gyda’r contractwr i gael y costau terfynol i’w cynnwys yn yr Achos Busnes Llawn er mwyn cyflwyno hwn i Lywodraeth Cymru i graffu arno.