WAQ78196 (w) Wedi’i gyflwyno ar 01/05/2019

A wnaiff y Gweinidog ddarparu copi o gofnodion y Cyfarfod Pedairochrog Busnes a Diwydiant a gynhaliwyd ar 4 Ebrill 2019?

Wedi'i ateb gan Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth | Wedi'i ateb ar 15/05/2019

Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU yw’r ysgrifenyddiaeth yn y cyfarfodydd hyn a chynhaliwyd y cyfarfod cyntaf fis diwethaf. Er mwyn cael cymaint o fudd â phosibl o’r cyfarfodydd hyn, mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda swyddogion BEIS a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill ar amrywiaeth o faterion gweithdrefnol sy’n ymwneud â’r cyfarfodydd pedairochrog, gan gynnwys sut y caiff deilliannau cyfarfodydd yn y dyfodol eu cofnodi a’u hadrodd, fel bod modd rhannu gwybodaeth yn gyson â phartïon perthnasol megis Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Yn y cyfamser, byddaf yn darparu cofnod mwy manwl o’r Cyfarfod Pedairochrog Busnes a Diwydiant a gynhaliwyd ar 4 Ebrill 2019. Bydd hyn yn ategu fy natganiad ysgrifenedig ar 29 Ebrill 2019.

Fel y nodais yn y datganiad hwnnw, es i i’r cyfarfod ar ran Llywodraeth Cymru ac roedd Ivan McKee MSP yno o Lywodraeth yr Alban a Kelly Tolhurst AS ar ran Llywodraeth y DU. Cynrychiolwyd Gogledd Iwerddon gan uwch aelod o’i Gwasanaeth Sifil.

Dyma oedd y cyfarfod pedairochrog Busnes a Diwydiant cyntaf a’i nod yn bennaf oedd edrych ar y ffyrdd mwyaf effeithiol o gydweithio ar amrywiaeth o faterion busnes, yn bennaf mewn perthynas ag ymadawiad y DU â’r UE a materion sy’n gysylltiedig â hynny. Mae’r trafodaethau cychwynnol hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau llwyddiant y cyfarfodydd hyn yn y dyfodol.

Trafodwyd pa mor bwysig oedd rhoi eglurder ynghylch natur ymadawiad y DU â’r UE i fusnesau ar draws y DU.

Roedd y gweinyddiaethau datganoledig wedi mynegi pryder ynghylch effaith economaidd y tariffau. Ystyriwyd hefyd y posibilrwydd bod angen blaenoriaethu allforion pe bai’r DU yn ymadael yr UE heb gytundeb a phwysleisiwyd yr angen i drafod â’r gweinyddiaethau datganoledig yn brydlon, o gofio’r terfynau amser sydd ynghlwm wrth allforio rhai nwyddau ac effaith ehangach unrhyw oedi ar y ffin ar rai o’r nwyddau hynny.

Hefyd, trafodwyd sgiliau a llafur o ganlyniad i bolisi mewnfudo drafft Llywodraeth y DU a chytunwyd trafod hyn ymhellach mewn cyfarfod arall yn y dyfodol.

Roedd y gweinyddiaethau datganoledig wedi cydnabod pa mor bwysig yw effaith ymadawiad y DU â’r UE ar yr economi wledig, yn enwedig os na fydd cytundeb Brexit, a’r angen i ystyried anghydbwysedd ac anfanteision rhanbarthol wrth ddatblygu ein hymatebion.

Cytunom ar ba mor bwysig yw gwybodaeth leol a bod angen cydweithio pellach ar lifoedd ar draws ffiniau.

Rhannodd yr aelodau eraill wybodaeth am sut y mae busnesau yn paratoi ar gyfer Brexit, a chytunwyd bod yn rhaid inni sicrhau cysondeb wrth drafod â nhw. Cytunom y dylwn barhau i rannu gwybodaeth, yn enwedig gyda busnesau, a bod cyflymder a phrydlondeb ymyriadau dilynol yn bwysig. Cydnabuwyd bod angen i swyddogion polisi Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig gydweithio’n effeithiol i sicrhau cymaint o effaith â phosibl ac i osgoi unrhyw ganlyniadau negyddol posibl.

Wrth edrych ar agendau’r dyfodol, pwysleisiwyd y pwysigrwydd bod lleisiau’r gweinyddiaethau datganoledig yn cael eu clywed mewn trafodaethau ar berthynas y DU â’r UE yn y dyfodol. Edrychwyd hefyd ar y posibilrwydd mai yn y cyfarfodydd pedairochrog hyn y bydd trafodaethau gweinidogol yn cael eu cynnal ar Bartneriaethau Economaidd y Dyfodol.