WAQ78169 (w) Wedi’i gyflwyno ar 17/04/2019

Ble y gellir dod o hyd i agendâu, papurau a chofnodion Cyngor Partneriaeth y Gymraeg?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol | Wedi'i ateb ar 01/05/2019

Mae’r Cyngor Partneriaeth yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn neu’n amlach os bydd y Gweinidog yn awyddus i geisio cyngor ar faterion penodol.

Yn aml, bydd y trafodaethau  yn cael eu cynnal yn ystod y broses o ddatblygu polisi, cyn bod y materion dan sylw yn dod yn faterion cyhoeddus / neu’n destun ymgynghoriadau ynddynt eu hunain gydag amser.

Nid yw agendâu, papurau na chofnodion Cyngor Partneriaeth y Gymraeg yn cael eu cyhoeddi ar hyn o bryd.

Rydym yn hapus i ystyried cyhoeddi agendâu’r cyfarfodydd yn y dyfodol ac unrhyw bapurau lle bo hynny’n briodol.