WAQ78021 (w) Wedi’i gyflwyno ar 15/03/2019

A wnaiff y Gweinidog esbonio pam nad yw pob un o'r 19 darparwr prentisiaeth a dysgu yn y gweithle sy'n derbyn cyllid Llywodraeth Cymru yn cydymffurfio â safonau’r Gymraeg?

Wedi'i ateb gan Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth | Wedi'i ateb ar 26/03/2019

Mae saith o’r 19 o ddarparwyr arweiniol yn Golegau Addysg Bellach ac felly eisoes o dan gylch gorchwyl Safonau’r Gymraeg.

 

O ran y 12 darparwr sy’n weddill, er nad oedd Safonau’r Gymraeg mewn grym ar adeg dechrau’r contract prentisiaethau yn 2015 mae’n ofynnol i’r holl ddarparwyr gael polisi ar gyfer y Gymraeg yn ei le sy’n cefnogi datblygiad y Gymraeg fel sgìl o fewn y gweithlu a chymryd camau i gynyddu’r niferoedd sy’n gwneud hyfforddiant drwy’r Gymraeg ac yn ddwyieithog.

 

Rhaid i ddarparwyr hefyd greu amgylchedd lle gall pobl fanteisio ar y gwasanaethau yn eu dewis iaith. Yn ogystal â hynny mae Llywodraeth Cymru’n ariannu adnodd arbenigwr i weithio gyda darparwyr drwy’r rhwydwaith i wella’r gwaith o ddatblygu’r Gymraeg.

 

O ystyried pwysigrwydd ymgorffori’r Safonau, rydyn ni wrthi ar hyn o bryd yn gweithio i sicrhau y gellir eu hymgorffori yn rhan o’r contractau pan fyddant yn cael eu hadnewyddu ym mis Awst eleni.