WAQ77964 (w) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatgan ar ba sail ystadegol y penderfynodd bod modd cyrraedd y targed miliwn o siaradwyr drwy sicrhau bod hanner y plant sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Saesneg yn rhugl eu Cymraeg erbyn 2050?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol | Wedi'i ateb ar 15/03/2019

Unwaith cafodd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ei osod, datblygodd swyddogion yng Ngwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru amcanestyniad ar gyfer nifer y siaradwyr Cymraeg hyd at 2050, yn seiliedig ar ddata Cyfrifiad 2011 a thueddiadau mewn data demograffig. Pe bai’r amcanestyniad hwn yn gael ei wireddu, roedd modd felly gweld faint yn fwy o siaradwyr Cymraeg byddai angen er mwyn cyrraedd y miliwn.

 

Gweithiodd swyddogion Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi â swyddogion Is-adran y Gymraeg i ddatblygu taflwybr yn seiliedig ar nifer o flaenoriaethau polisi a nodwyd yn y strategaeth Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg, gan ystyried sawl sefyllfa wahanol. Un ffordd bosibl o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg felly ydy’r taflwybr sydd yn sail i’r strategaeth.

 

Rydyn yn glir yn Cymraeg 2050 mai’r cyfrifiad yw sail ein huchelgais o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg. Yn y cyfamser gall arolygon aelwydydd roi darlun i ni o‘r tueddiadau ers y cyfrifiad, er nad yw’r niferoedd ar sail cyson.

 

Sail ein targed o weld cynnydd yng nghanran y boblogaeth sy’n siarad Cymraeg bob dydd, ac sy’n gallu siarad mwy nag ychydig o eiriau o Gymraeg, yw’r Arolwg Defnydd Iaith (ynghyd â’r cyfrifiad). Bydd ffynonellau data eraill yn cael eu defnyddio i fonitro cynnydd tuag at ein newidiadau trawsnewidiol, gan gynnwys data gweinyddol o Gyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) ac asesiadau athrawon.

 

Un o newidiadau trawsnewidiol sydd wedi ei gynnwys yn Cymraeg 2050 ydy gweddnewid sut rydym yn addysgu Cymraeg i bob dysgwyr fel bod o leiaf 70 y cant o’r dysgwyr hynny’n gallu dweud erbyn 2050 eu bod yn gallu siarad Cymraeg erbyn iddynt adael ysgol (yn rhugl ai peidio). I wneud hyn, y nod yw cynyddu’r gyfran o bob grŵp blwyddyn ysgol sy’n cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg i 40 y cant erbyn 2050. Golyga hyn felly mai’r dybiaeth ydy y bydd hanner o’r rheiny fydd mewn addysg cyfrwng Saesneg yn gadael yr ysgol yn nodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn 2050 (yn rhugl ai peidio). Mae’r adroddiad technegol sydd wedi ei gyhoeddi law yn llaw â Cymraeg 2050 yn esbonio’r fethodoleg y tu ôl i’r amcanestyniad a thaflwybr sydd wedi eu cynnwys yn y strategaeth.

https://gov.wales/topics/welshlanguage/welsh-language-strategy-and-policies/cymraeg-2050-welsh-language-strategy/?skip=1&lang=cy

 

Mae’r data ar gyfer yr amcanestyniad a thaflwybr nifer y siaradwyr Cymraeg tair oed a throsodd ar gael ar wefan StatsCymru.

https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Welsh-Language

 

Nid oes tybiaeth yn y strategaeth am ba ganran o blant mewn ysgolion cyfrwng Saesneg fydd yn rhugl yn y Gymraeg ai peidio erbyn 2030 a 2040.

 

Nid oes dadansoddiad ystadegol ar gael sy’n dangos y bydd hanner y plant mewn addysg cyfrwng Saesneg yn rhugl yn 2050 – fel a nodir yn yr adroddiad technegol, y dybiaeth ydy y bydd hanner o’r plant mewn addysg cyfrwng Saesneg yn gadael yn nodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg fel un ffordd o gyrraedd y miliwn erbyn 2050.