WAQ77891 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/02/2019

Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o ddarparu cyfieithiad Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer darlledu trafodion y Cyfarfod Llawn?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Cynulliad | Wedi'i ateb ar 21/02/2019

Dechreuon ni ddarparu dehongliad Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar gyfer Cwestiynau'r Prif Weinidog, mewn partneriaeth â S4C a Chyngor Pobl Fyddar Cymru, ym mis Hydref 2013. Dangoswyd y sesiynau hyn ar raglen ‘Y Dydd yn y Cynulliad’ ar S4C.

Pan ddaeth ‘Y Dydd yn y Cynulliad’ i ben ym mis Ebrill 2016, cytunodd y Comisiwn i gymryd y cyfrifoldeb dros weithredu a chyllido'r gwasanaeth hwn. Fe'i dangosir bellach ar Senedd TV ac ein sianel YouTube. Ar hyn o bryd, ni yw'r unig ddeddfwrfa yn y DU sy'n darparu'r gwasanaeth rheolaidd hwn, ac er nad ydym wedi'n rhwymo gan ganllawiau Ofcom, mae ein darpariaeth ar gyfer dehongliad BSL ar gyfer pob sesiwn Cwestiynau'r Prif Weinidog yn dod i tua 5% o gyfanswm busnes cyhoeddus y Cynulliad, sy'n cyfateb i gyfanswm y canllawiau allbwn BSL a osodir ar gyfer darlledwyr.

Rydym yn cynnal adolygiadau rheolaidd o'r gwasanaeth gyda darlledwr y Cynulliad. Yn ystod y dyddiau cynnar, roedd y dehongliad yn cael ei darlledu 'fel yn fyw'. Roedd hyn yn achosi problemau i ddehonglwyr o ystyried bod y trafodion heb eu sgriptio gan fwyaf, eu bod yn digwydd yn gyflym ac yn aml yn cynnwys terminoleg gymhleth. Ar ôl buddsoddi yn ein systemau darlledu yn 2014, rydym wedi gallu recordio a chwarae'r sesiwn yn ôl, gan roi amser i'r dehonglydd wylio ac adolygu'r sesiwn cyn dechrau ei dehongli. Mae hyn wedi gwella cywirdeb ac ansawdd y gwasanaeth, y mae dehonglwyr a defnyddwyr wedi'i groesawu'n fawr.

Yn flaenorol, rydym wedi ymchwilio i ymestyn darpariaeth dehongliad Iaith Arwyddion Prydain i gynnwys trafodion ehangach y Cyfarfod Llawn ac i Bwyllgorau. Fodd bynnag, mae gan y dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain bryderon gwirioneddol ynghylch eu gallu i ddehongli trafodaethau byw yn gywir, o ystyried cyflymder a chymhlethdod y trafodion. Mae ein hiaith seneddol a thechnegol yn achosi mwy o broblemau – rydym yn defnyddio termau nad oes cyfwerth Iaith Arwyddion Prydain ar eu cyfer. Ar hyn o bryd, dim ond un stiwdio sydd wedi'i sefydlu i ddarparu'r gwasanaeth, felly byddai angen buddsoddiad pellach i ddehongli nifer o gyfarfodydd Pwyllgorau ar yr un pryd.

Mae'r gwasanaeth dehongli ar gael ar gais, ac rydym wedi arwyddo'r Ddadl ar adroddiad Pwyllgor Deisebau yn ddiweddar ar wella Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i Bawb. Gallem geisio ymestyn dehongliad BSL i sesiynau Cwestiynau'r Gweinidog eraill, neu i ddehongli sesiwn lawn o'r Cyfarfod Llawn yn fwy rheolaidd. Byddai hyn yn galw am ragor o ddehonglwyr BSL ac rydym yn amcangyfrif y byddai hyn yn ychwanegu o leiaf £30,000-£40,000 y flwyddyn at gost bresennol y gwasanaeth