WAQ77843 (w) Wedi’i gyflwyno ar 04/02/2019

A wnaiff y Gweinidog gadarnhau y bydd swyddfa newydd y Comisynydd Trafnidiaeth yng Nghaernarfon ac a wnaiff roi amserlen ar gyfer yr adleoliad?

Wedi'i ateb gan Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth | Wedi'i ateb ar 11/02/2019

Mae fy swyddogion yn cydweithio â Chyngor Gwynedd ac eraill er mwyn darparu swyddfa ar gyfer Comisiynydd Traffig Cymru yng Nghaernarfon, a fydd yn ychwanegol at y swyddfa yng Nghaerdydd.

Bydd y broses honno’n cynnwys creu swyddfa sy’n diwallu anghenion y Comisiynydd yng Nghaernarfon, ac a fydd yn gallu cynnwys tri aelod o staff dwyieithog a fydd yn cael eu cyflogi gan yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) ond y bydd eu swyddi’n cael eu cyllido gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y swyddfa’n barod ar gyfer y staff cymorth cyn gynted ag y bydd yr Asiantaeth wedi cwblhau’r broses recriwtio a phenodi, sef erbyn diwedd mis Ebrill 2019 yn fwy na thebyg.