WAQ77792 (w) Wedi’i gyflwyno ar 24/01/2019

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal ynglŷn â chau cangenhau o fanc Santander yng Nghymru?

Wedi'i ateb gan Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth | Wedi'i ateb ar 01/02/2019

Nid yw rheoleiddio’r banciau yn fater datganoledig ac o’r herwydd Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol amdano. Llywodraeth y DU sydd â’r pwerau i reoleiddio’r diwydiant, gan sicrhau bod gwasanaethau bancio allweddol ar gael i’r gymuned ar y stryd fawr un ai drwy’r banciau traddodiadol neu’n fwyfwy drwy wasanaethau sydd wedi’u trosglwyddo i Swyddfa’r Post.

 

Mae penderfyniadau ynghylch cau canghennau yn faterion cwbl fasnachol i’r banciau eu hunain. Eto i gyd, mae swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd â’r banciau er mwyn trafod gwahanol faterion, gan gynnwys eu rhaglenni ar gyfer cau canghennau. Mae Llywodraeth Cymru yn cyfeirio’n gyson at yr angen i fanciau ystyried effaith cau cangen ar yr unigolion a’r busnesau y mae’r gangen yn eu gwasanaethu o fewn y gymuned.

 

Gall Busnes Cymru gynnig gwybodaeth, arweiniad a chymorth i unrhyw fusnesau y bydd cyhoeddiad Santander ynghylch cau canghennau yng Nghymru yn effeithio arnynt a hoffwn eu hannog i gysylltu â’r gwasanaeth.