A wnaiff y Prif Weinidog gyhoeddi fersiwn ddiweddaraf rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru a darparu adroddiad byr yn amlinellu cynnydd ar gyflawniad y rhaglen?
Ar 17 Gorffennaf 2018 cyhoeddodd y cyn Brif Weinidog raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn y Cynulliad sydd i ddod. Cynhaliwyd y ddadl flynyddol ar y Rhaglen Ddeddfwriaethol ar 9 Hydref 2018. Ers y ddadl honno, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r Bil Deddfwriaeth (Cymru) ar 3 Rhagfyr 2018. Bydd y Biliau sy’n weddill yn cael eu cyflwyno cyn toriad yr haf. Byddaf yn cyhoeddi rhaglen ar gyfer 2019-20 maes o law.
Rwy’n parhau i adolygu effaith Brexit ar ein rhaglen ddeddfwriaethol, gan gynnwys yr angen am Filiau sy’n gysylltiedig â Brexit. Byddwn yn parhau i fod yn hyblyg i sicrhau, hyd y bo modd, nad yw’r llwyth gwaith yn sgil Brexit yn cyfyngu ar ein huchelgais ddeddfwriaethol.