WAQ77689 (w) Wedi’i gyflwyno ar 04/01/2019

Pa rymoedd sydd gan y Gweinidog i sicrhau na all awdurdodau lleol anwybyddu'r cod trefniadaeth ysgolion gan gynnwys amlinellu: a) beth yw'r grymoedd hynny; b) pryd a sut y gellir eu defnyddio; ac c) ar ba adeg yn y broses y gallai rhieni neu lywodraethwyr gwyno i Lywodraeth Cymru?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Addysg | Wedi'i ateb ar 15/01/2019

Mae'r Cod Trefniadaeth Ysgolion yn darparu ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn mynegi ei wrthwynebiad neu ei bryderon ynghylch y cynnig, gan gynnwys y broses a ddilynwyd, fel rhan o'r broses ymgynghori statudol. 

                                                                                               

Gall unigolion hefyd wrthwynebu yn ystod y cyfnod gwrthwynebu dilynol.  Rhaid i'r cynigydd gyhoeddi adroddiadau ymgynghori a gwrthwynebu gan grynhoi pob un o'r pryderon a godwyd ac ymateb i'r rhain drwy egluro, diwygio'r cynnig neu wrthod y pryderon gan nodi'r rhesymau.    

 

Rhaid i'r sawl sy'n penderfynu ystyried yn gydwybodol y gwrthwynebiadau ochr yn ochr â'r dadleuon sy'n ymwneud â'r cynigion, yng ngoleuni'r ffactorau a nodir yn y Cod. Mae hyn yn cynnwys y ffactorau i'w hystyried mewn perthynas â chynigion i gau ysgolion a ddynodir yn ysgolion gwledig. 

 

Lle byddant o'r farn nad yw awdurdod lleol yn cydymffurfio â'r Cod, caiff unigolion wneud cwyn gan ddefnyddio gweithdrefnau cwyno sefydledig yr awdurdod lleol. 

 

Gall unigolion godi eu pryderon hefyd gyda Gweinidogion Cymru.  Fodd bynnag, ni fwriedir i'r broses gwyno ddisodli'r broses drefniadaeth ysgolion a amlinellir yn y Cod ac a grynhoir uchod. 

Gwneir y Cod Trefniadaeth Ysgolion o dan Adrannau 38 a 39 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.  Mae'n gosod gofynion y mae'n rhaid i gyrff perthnasol, gan gynnwys awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, weithredu yn unol â nhw.  Lle pennir gofynion gorfodol gan y Cod neu Ddeddf 2013 neu statud neu offeryn statudol arall, nodir bod yn rhaid i gyrff perthnasol gydymffurfio â'r ddarpariaeth benodol. 

 

Mae'n cynnwys canllawiau statudol y mae'n rhaid i gyrff perthnasol roi sylw iddynt.  Lle bydd y Cod yn rhoi canllawiau, nodir y dylai cyrff perthnasol eu dilyn oni bai eu bod yn gallu cyfiawnhau peidio â gwneud hynny.

 

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau i ymyrryd mewn perthynas â chyflawni swyddogaethau addysg awdurdod lleol.  Nodir hyn ym Mhennod 2 o Ran 2 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (y Ddeddf). Mae Adran 21 o'r Ddeddf yn nodi manylion y seiliau dros ymyrryd:

 

  • SAIL 1 - Mae’r awdurdod lleol wedi methu, neu’n debyg o fethu, â chydymffurfio â dyletswydd sy’n swyddogaeth addysg.
  • SAIL 2 - Mae’r awdurdod lleol wedi gweithredu, neu’n bwriadu gweithredu, yn afresymol wrth arfer swyddogaeth addysg.
  • SAIL 3 - Mae’r awdurdod lleol yn methu, neu’n debyg o fethu, â chyflawni swyddogaeth addysg yn ôl safon ddigonol.

a) Beth yw'r pwerau hynny

 

Mae gan Weinidogion Cymru nifer o bwerau ymyrryd i'w defnyddio pan fyddant yn fodlon bod yna un neu fwy o seiliau dros ymyrryd mewn perthynas ag awdurdod lleol. 

 

Yn eu plith mae'r pwerau canlynol: 

 

  • Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gael gwasanaethau cynghori;
  • Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i swyddogaethau gael eu cyflawni gan bersonau eraill ar ran awdurdod
  • Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i swyddogaethau gael eu cyflawni gan Weinidogion Cymru neu enwebai
  • Pŵer i gyfarwyddo’r modd y mae swyddogaethau addysg eraill yn cael eu harfer
  • Pŵer cyffredinol i roi cyfarwyddiadau a chymryd camau

 

Byddai'r ymyriad yn dibynnu ar y sail benodol dan sylw.  Lle bydd Gweinidogion Cymru yn fodlon bod yna dystiolaeth nad yw awdurdod lleol wedi cydymffurfio â gofyniad statudol, efallai y bydd yn briodol mewn amgylchiadau o'r fath i roi cyfarwyddyd cyffredinol i'r perwyl bod yn rhaid i'r awdurdod gydymffurfio â'r darpariaethau angenrheidiol.

 

b) Pryd a sut gellir defnyddio'r pwerau hyn

Gellir defnyddio'r pwerau lle bydd Gweinidogion Cymru yn fodlon bod yna dystiolaeth bod un neu fwy o seiliau dros ymyrryd, a lle mae'r awdurdod lleol wedi methu â chydymffurfio â hysbysiad rhybuddio i raddau sy'n bodloni Gweinidogion Cymru o fewn yr amserlen angenrheidiol. 

c) Ar ba adeg yn y broses y gall rhieni neu lywodraethwyr gwyno wrth Lywodraeth Cymru

Nid oes cyfyngiad o ran pryd y gall rhieni neu lywodraethwyr gwyno wrth Weinidogion Cymru. Fodd bynnag, fel rheol byddai Gweinidogion Cymru wedi disgwyl i achwynwyr ddilyn y gweithdrefnau cwyno lleol i'w pen draw ac i'r awdurdod lleol fod wedi cael cyfle i ymateb i'r gŵyn.