WAQ77688 (w) Wedi’i gyflwyno ar 04/01/2019

A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi unrhyw ohebiaeth rhyngddi a bwrdd dyrannu grantiau cronfa Ysgolion yr 21ain Ganrif mewn perthynas â'r cod trefniadaeth ysgolion?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Addysg | Wedi'i ateb ar 14/01/2019

Gallaf gadarnhau nad wyf i wedi gohebu gyda Phanel Buddsoddi'r Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif mewn perthynas â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion. Nid yw’r Panel hwn yn dyrannu cyllid grant ond mae’n gwneud argymhellion ar achosion busnes partneriaid cyflenwi ar gyfer buddsoddiad imi eu hystyried.