WAQ77687 (w) Wedi’i gyflwyno ar 04/01/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad yw bwrdd dyrannu grantiau Cronfa Ysgolion yr 21ain Ganrif yn tanseilio polisi Llywodraeth Cymru yn y cod trefniadaeth ysgolion o ragdyb o blaid ysgolion gwledig?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Addysg | Wedi'i ateb ar 14/01/2019

Mae proses asesu gadarn ar waith ar gyfer achosion busnes a gyflwynir mewn perthynas â buddsoddiad y Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer y 21ain Ganrif. 

Yn y lle cyntaf, mae achosion busnes yn cael eu hystyried gan grŵp craffu sy’n cynnwys swyddogion o drawstoriad eang o adrannau polisi Llywodraeth Cymru. Mae’r grŵp yn cynnwys cynrychiolaeth o’r adran sy’n gyfrifol am bolisi trefniadaeth ysgolion.

Pan fydd y grŵp craffu wedi ystyried achos busnes, mae argymhelliad yn cael ei wneud i Banel Buddsoddi’r Rhaglen, sy’n cynnwys Cyfarwyddwyr a Dirprwy Gyfarwyddwyr o amrywiaeth o Adrannau Llywodraeth Cymru, ac yn eu plith y Dirprwy Gyfarwyddwr sy’n goruchwylio polisi trefniadaeth ysgolion. Mae’r panel hwn yn gwneud argymhellion buddsoddi imi eu hystyried.

Mae aelodaeth eang y grŵp craffu a’r Panel Buddsoddi yn sicrhau bod polisi Llywodraeth Cymru yn cael ei adlewyrchu mewn unrhyw argymhellion cyllid a wneir. Yn ogystal â hynny, mae unrhyw gynnig o gyllid o dan y Rhaglen hefyd yn amodol ar gwblhau’r gweithdrefnau statudol perthnasol ar gyfer ad-drefnu ysgolion yn foddhaol.