Faint o blant mewn tlodi yng Nghymru sy'n byw mewn teuluoedd sy'n ennill dros £7,400 y flwyddyn?
Nid yw’r ffigwr y gofynnwyd amdano yn hawdd cael gafael arno.
Mae ystadegau swyddogol am dlodi yn cael eu cynhyrchu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ac nid yw’n cyhoeddi data ar y niferoedd mewn tlodi ar sail lefel eu henillion. Mae’r ystadegau’n cael eu codi o’r gyfres Cartrefi Islaw’r Incwm Cyfartalog, sy’n seiliedig yn bennaf ar ddata Arolwg o Adnoddau Teulu.
Mae’n anodd cymharu data am enillion blynyddol a thlodi. Mae cyfrifiadau ar gyfer tlodi yn seiliedig ar gyfanswm incwm y cartref o bob ffynhonnell (gan gynnwys enillion), ac mae’r ffynonellau incwm a gofnodir drwy’r Arolwg o Adnoddau Teulu oll yn cael eu trawsnewid yn symiau wythnosol. Er mwyn mesur tlodi, mae incwm y cartref hefyd yn cael ei gyfartalu er mwyn addasu ar gyfer cyfansoddiad y cartref, hynny yw nifer yr aelodau yn y cartref a’u hoed.
Yn ogystal â hynny mae nifer cymharol fach o gartrefi yng Nghymru yn cael eu samplu yn yr Arolwg o Adnoddau Teulu bob blwyddyn sy’n golygu y gall unrhyw amcangyfrifon sy’n seiliedig ar y data hyn fod yn gyfnewidiol ac yn destun cyfyngau mawr o ran eu hyder.