WAQ77405 (w) Wedi’i gyflwyno ar 09/11/2018

Faint o hyfforddeion addysg sy’n dilyn cwrs tystysgrif cymhwysedd iaith eleni?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Wedi'i ateb ar 16/11/2018

Mae gan Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) drwy gyfrwng y Gymraeg ran bwysig i'w chwarae yn y gwaith o gyrraedd nod Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a hefyd wrth gyfrannu at yr ymrwymiadau a nodir gan Lywodraeth Cymru yn ein Cynllun Gweithredu y Gymraeg mewn Addysg 2017-21. 

 

Yn 2017 comisiynwyd OB3 Research gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad o ddarpariaeth AGA drwy gyfrwng y Gymraeg. Canfu’r gwerthusiad fod y darpariaethau sydd ar gael drwy'r Cynllun Gwella Cyfrwng Cymraeg a'r dystysgrif cymhwysedd iaith yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at ddatblygu sgiliau hyfforddeion yn y Gymraeg ac at eu gallu i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac y dylid cadw rhai elfennau o'r ddarpariaeth fel egwyddor yn unrhyw ddarpariaeth AGA yn y dyfodol. Gellir gweld yr adroddiad llawn - Gwerthusiad o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn Addysg Gychwynnol i Athrawon yma: https://gov.wales/statistics-and-research/evaluation-welsh-medium-provision-initial-teacher-education/?=1&lang=cy

 

Mae canfyddiadau'r adroddiad yn cael eu hystyried yn eu cyfanrwydd fel rhan o'r diwygiadau i AGA sydd ar y gweill gennym. Cynhaliodd fy swyddogion gyfarfod â'r partneriaethau AGA ar 5 Tachwedd i gael trafodaethau cychwynnol ynghylch sut y byddwn yn symud ymlaen i gefnogi ein holl hyfforddeion i ddatblygu eu sgiliau yn y Gymraeg a'u cymhwysedd i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y trafodaethau hyn yn parhau dros y misoedd nesaf, ac rwy'n gobeithio y byddaf yn gallu cadarnhau'r trefniadau ar gyfer y Cynllun Gwella Cyfrwng Cymraeg a'r dystysgrif cymhwysedd iaith o fis Medi 2019 ymlaen yn y flwyddyn newydd.

 

O ran y nifer sy'n dilyn cwrs y dystysgrif cymhwysedd iaith, nid yw'r data ar gyfer cofrestriadau 2018/19 gennym ar hyn o bryd. Bydd y data hyn ar gael erbyn mis Chwefror. Yn 2017/18 dilynwyd y cwrs gan gyfanswm o 161 o hyfforddeion, 75 o hyfforddeion cynradd ac 86 o hyfforddeion uwchradd.

 

Mae Meini prawf ar gyfer achredu rhaglenni addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2017 wedi ailystyried AGA yng Nghymru, gan ei gwneud yn ofynnol sicrhau partneriaethau cryf rhwng sefydliadau addysg gychwynnol athrawon ac ysgolion, fel eu bod yn gweithio mewn partneriaeth go iawn i ddarparu gweithlu o'r radd flaenaf ar gyfer y dyfodol. Mae'r meini prawf hefyd yn gosod gofyniad clir ar Bartneriaethau AGA i gynnwys gweithgarwch yn eu rhaglenni sy'n datblygu'r Gymraeg yn y ddwy ffordd a ganlyn.

 

  • Darpariaeth yn Gymraeg gan y bartneriaeth i'r rheini sydd am ddilyn gyrfa mewn ysgolion Cymraeg neu ddwyieithog.

 

  • Darpariaeth gan y bartneriaeth i wella sgiliau Cymraeg holl fyfyrwyr AGA.

 

Cynhaliwyd y broses achredu gan Gyngor y Gweithlu Addysg, felly nid oes gennym wybodaeth fanwl ynghylch sut y bydd y partneriaethau achrededig yn cyflwyno eu darpariaeth o fis Medi 2019 ymlaen. Yn ôl yr hyn yr ydym yn ei ddeall, mae'r pedair partneriaeth achrededig yn dal i fod wrthi'n recriwtio a chynllunio'r gwaith o gyflwyno'u darpariaeth yn unol â'r cynlluniau a gymeradwywyd ar eu cyfer. Oherwydd hyn, nid yw nifer y tiwtoriaid pynciol sy'n darparu hyfforddiant cyfrwng Cymraeg yn y pedair partneriaeth achrededig ar gael ar hyn o bryd.

 

Rydym yn cydnabod bod tiwtoriaid pynciol sy'n darparu hyfforddiant cyfrwng Cymraeg yn y Partneriaethau AGA yn gwneud cyfraniad pwysig at ddatblygu sgiliau'r hyfforddeion a byddwn yn parhau i annog cydweithio mwy clos rhwng darparwyr ac ysgolion ac i chwilio am gyfleoedd i wneud hynny.

 

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu brand AGA cyfrwng Cymraeg sy'n gryfach ac sy’n hawdd ei adnabod er mwyn sicrhau bod gweithlu digonol ar gael i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg.