WAQ77383 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag a) Ysgrifennydd Gwladol Cymru a b) Comisiynydd y Gymraeg am effaith posib gadael yr Undeb Ewropeaidd ar siaradwyr Cymraeg a chymunedau Cymraeg eu hiaith?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes | Wedi'i ateb ar 14/11/2018

Mae trafodaethau rheolaidd rhwng Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru o ran ein hymadael o'r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys trwy'r Cydbwyllgor Gweinidogol (Trafodaethau Ewropeaidd). Nid ydym wedi trafod yn benodol y cwestiwn o effaith bosibl Brexit ar siaradwyr Cymraeg a chymunedau Cymraeg gyda'r Ysgrifennydd Gwladol na Chomisiynydd yr Iaith Gymraeg.

Rydym yn parhau i bwysleisio i Lywodraeth y DU a rhan ddeiliaid yn gyhoeddus ac yn breifat y bydd effaith negyddol o ganlyniad i Brexit ar bob un o bobl Cymru, a bydd y rhain yn arbennig o ddifrifol yn achos canlyniad o ddim cytundeb yn dilyn y trafodaethau cyfredol. Mae'n debyg y bydd canlyniad o'r fath yn effeithio'n ddifrifol ar gymunedau gwledig, nifer ohonynt yn siarad Cymraeg yn bennaf, oherwydd yr effeithiau difrifol posibl ar ffermio a cholli mynediad i farchnadoedd Ewropeaidd.