A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau faint o gyllid newydd a fydd ar gael i wireddu’r cynlluniau yn y Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg a gyhoeddwyd yn ddiweddar?
Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes | Wedi'i ateb ar 05/11/2018
Rydym yn buddsoddi hanner miliwn o bunnoedd yn y Cynllun fel man cychwyn. Wedyn, byddwn yn edrych yn ystod 2019-20 ar anghenion y blynyddoedd dilynol, yn ddibynnol ar gyllideb 2020-21. Mae’r Cynllun fodd bynnag yn dangos bwriad clir Llywodraeth Cymru i gefnogi datblygiadau technoleg Cymraeg dros y tymor hir.