WAQ77338 (w) Wedi’i gyflwyno ar 26/10/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd wrth gyflawni pwynt gweithredu 6.1 ar dudalen 14 'Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr – Cynllun gweithredu 2018-19'?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes | Wedi'i ateb ar 07/11/2018

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweld defnydd mewnol o’r Gymraeg yn datblygu ers i’r Safonau ddod i rym ym mis Mawrth 2016 ac mewn ymateb i gynllun gweithredu strategaeth y Gymraeg, Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr.  Mae gofynion safonau’r Gymraeg wedi’u hymgorffori mewn arferion gwaith bob dydd y swyddogion, ac mae cwsmeriaid a rhan-ddeiliaid yn gynyddol ymwybodol o’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt ymwneud â Llywodraeth Cymru’n ddwyieithog. Mae’r Gymraeg i’w gweld a’i chlywed fwyfwy ledled ystâd Llywodraeth Cymru. Mae cyfleoedd lu ar gael i staff drwy gefnogaeth fewnol, gwersi wythnosol a rhaglen amrywiol Cymraeg Gwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddysgu Cymraeg o’r newydd neu wella’u sgiliau.  Yn ystod y cyfnod nesaf bydd gwaith yn parhau i hyrwyddo a hwyluso’r iaith ymhellach yn fewnol yn y sefydliad er mwyn sicrhau bo gweithlu’r Llywodraeth yn derbyn cyfleoedd i ymarfer eu Cymraeg a gweithio’n gynyddol trwy gyfrwng yr iaith.  Mae’r Ysgrifennydd Parhaol wedi comisiynu gwaith ar arfer dda yn y maes hwn drwy Gymru ac yn mynd i ystyried y camau nesaf i’r sefydliad o ran uchelgais a pholisi dros yr wythnosau nesaf.