A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu gwybodaeth am faint o arian o’r cyfanswm o £46 miliwn o wariant cyfalaf i gefnogi twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg sydd wedi ei ddyrannu i bob awdurdod lleol?
Mae cyllid i gefnogi ehangu dysgu’r Gymraeg yn cael ei roi (ar sail 100%) i brosiectau sy’n cael eu hargymell gan Banel Buddsoddi Grant Cyfalaf y Gymraeg.
Mae’r prosiectau hynny nad ydynt wedi cael eu cymeradwyo wedi cael eu rhoi ar restr wrth gefn a bydd cyngor pellach yn cael ei gyflwyno ar yr opsiynau sydd ar gael i gefnogi’r prosiectau hyn.
Awdurdod Lleol |
Cyfanswm y gost |
|
1. Ynys Môn |
0.64 |
1. Uned gofal plant mewn ysgol newydd yn Llangefni (sefydlu ysgol newydd yn lle Bodffordd a Chorn Hir).
|
2. Pen-y-bont ar Ogwr |
2.6 |
1. Darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg (gofal plant drwy’r dydd, gofal plant fesul sesiwn a gofal plant y tu allan i oriau’r ysgol) ym Metws. 2. Darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg (gofal plant drwy’r dydd, gofal plant fesul sesiwn a gofal plant y tu allan i oriau’r ysgol) yn nhref Pen-y-bont ar Ogwr. 3. Darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg (gofal drwy’r dydd, gofal plant fesul sesiwn a thu allan i oriau’r ysgol) yng Nghwm Ogwr. 4. Darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg (gofal diwrnod llawn, gofal plant fesul sesiwn a thu allan i’r ysgol) ym Mhorthcawl.
|
3. Caerffili |
6.13 |
1. Ehangu'r nifer o leoedd ar gyfer gofal plant, er mwyn caniatáu 30 o leoedd statudol ychwanegol yn Ysgol Ifor Bach. 2. Ehangu'r ddarpariaeth (dwy ystafell ddosbarth ychwanegol) yn Ysgol Penalltau. 3. Ehangu’r ddarpariaeth (ystafelloedd dosbarth ychwanegol) yn Ysgol Cwm Derwen. 4. Ehangu/gwella’r ddarpariaeth yn Ysgol Gynradd Gymraeg y Castell (gan gynnwys dwy ystafell ddosbarth ychwanegol). 5. Darparu ystafell ddosbarth ychwanegol yn Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Allta er mwyn cynyddu capasiti.
|
4. Caerdydd |
3.81 |
1. Ehangu darpariaeth addysg gynradd cyfrwng Cymraeg yng Ngogledd Caerdydd. 2. Tri lleoliad newydd ar gyfer Cylchoedd Meithrin sy’n gysylltiedig ag ysgolion cynradd ar draws gwahanol ardaloedd y ddinas. 3. Ad-drefnu'r ddarpariaeth gynradd yng nghanol Caerdydd ac ychwanegu un dosbarth mynediad mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. |
5. Caerfyrddin |
1.36 |
1. Sefydlu Canolfan Drochi/Dysgu Cymraeg bwrpasol a pharhaol sydd ag elfennau wedi'u gwasgaru'n strategol 2. Sefydlu Canolfan Drochi/Dysgu Cymraeg bwrpasol a pharhaol sydd ag elfennau wedi'u gwasgaru'n strategol
|
6. Conwy |
1.23 |
1. Estyniad dosbarth yn Ysgol Awel y Mynydd. 2. Adeiladu ystafell ddosbarth barhaol ar gyfer Cylch Meithrin Ysgol Llanfair Talhaiarn yn lle’r adeilad symudol anaddas sydd eisoes yno. 3. Uno Cylch Meithrin Hen Golwyn a Chylch Meithrin Bae Colwyn mewn adeilad newydd pwrpasol yn Ysgol Bod Alaw.
|
7. Sir Ddinbych |
1.55 |
1. Canolfan Iaith yn Ysgol Glan Clwyd.
|
8. Sir y Fflint |
3.05 |
1. Darpariaeth cyn-ysgol mewn adeilad newydd pwrpasol yn Ysgol Glanrafon, er mwyn cydleoli'r ddarpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar ac annog mwy o bobl i anfon eu plant i ysgolion cyfrwng Cymraeg. 2. Ailfodelu ac ehangu Ysgol Glanrafon, yr Wyddgrug er mwyn cynyddu’r capasiti.
|
9. Gwynedd |
1.11 |
1. Gwella’r ganolfan iaith sydd eisoes yn Ysgol Eifionydd, Porthmadog (Uwchradd). 2. Gwella’r ganolfan iaith sydd eisoes yn Ysgol Cefn Coch, Penrhyndeudraeth (Cynradd). 3. Adeiladu canolfan iaith newydd ym Mangor.
|
10. Merthyr Tudful |
1.83 |
1. Ysgol gynradd Gymraeg newydd. 2. Ad-drefnu Ysgol Rhyd y Grug fel bod lle i ddwy ystafell ddosbarth ychwanegol ac i gynyddu'r ddarpariaeth feithrin a chyn-feithrin. |
11. Sir Fynwy |
1.89 |
1. Egin-ysgol gynradd Gymraeg newydd yn Nhrefynwy. 2. Ehangu capasiti Ysgol y Ffin.
|
12. Castell-nedd Port Talbot |
3.66 |
1. Ystafell ddosbarth ychwanegol a chynnig gofal plant cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Gynradd Gymraeg Cwmllynfell. 2. Dwy ystafell ddosbarth ychwanegol a chynnig gofal plant cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Gynradd Gymraeg Tyle’r Ynn, Llansawel 3. Gwaith adfer ac adnewyddu gan gynnwys tair ystafell ddosbarth a lleoedd gofal plant ychwanegol ym Mhontardawe.
|
13. Rhondda Cynon Taf |
3.57 |
1. Creu cyfleuster gofal plant yn Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr, 2. Adleoli Cylch Meithrin sydd eisoes wedi’i sefydlu o’i leoliad presennol i Ysgol Gynradd Gymraeg Abercynon 3. Gwell cyfleusterau ar gyfer y Cylch Meithrin yn Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James, Pontypridd. 4. Adeiladu estyniad parhaol yn Ysgol Gynradd Gymraeg Llantrisant a fydd yn cynnwys dwy ystafell ddosbarth yn ogystal â thoiledau addas i’r oedran ac ystafell gotiau yn lle’r adeilad symudol sydd eisoes yno. 5. Adeilad cyn-ysgol newydd yn Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen er mwyn gallu symud y Cylch Meithrin o’i hen leoliad dros dro 6. Adeilad newydd ar gyfer y blynyddoedd cynnar yn Ysgol Llanhari er mwyn gallu adleoli’r Cylch Meithrin.
|
14. Torfaen |
6.10 |
1. Ysgol gynradd newydd sy'n cynnwys meithrinfa ar safle presennol Ysgol Gyfun Gwynllyw, a fydd yn ehangu'r ystod oedran yr ysgol o 11-18 i 3-18. 2. Addasu Ysgol Gynradd Greenmeadow er mwyn sefydlu cyfleuster cyn-ysgol dan y Mudiad Meithrin ar gyfer 10 o blant 2-3 oed. |
15. Wrecsam |
1.30 |
1. Estyniad i Ysgol Bro Alun gan fod gormod o ddisgyblion yn mynd iddi. |
16. Blaenau Gwent |
6.00 |
1. Sefydlu egin-ysgol gynradd, a fydd yn arwain at adeiladu adeilad newydd ar gyfer Tredegar/Dyffryn Sirhywi |
Cyfanswm |
45.83* |
|
* Cyfraniad o’r Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg = £32.81m
*Cyfraniad o Grant Cyfalaf y Blynyddoedd Cynnar = £13.02m
Mae hyn yn gyfystyr â buddsoddiad o bron i £46m a dim ond 6 o’r 22 awdurdod lleol sydd heb gael unrhyw gyllid (Sir Benfro, Ceredigion, Casnewydd, Powys, Abertawe, Bro Morgannwg).