WAQ77178 (w) Wedi’i gyflwyno ar 19/09/2018

Ymhellach i'r ymateb i gwestiwn llafar OAQ52604, a wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau y bydd y bleidlais yn dilyn yr ymchwiliad cyhoeddus a'r gorchmynion statudol ar ffordd osgoi'r M4 ger Casnewydd yn bleidlais rhwymol?

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog | Wedi'i ateb ar 28/09/2018

Rydym wedi ymrwymo i gynnal dadl a phleidlais, yn ystod amser y llywodraeth, ar y project hwn unwaith y bydd pob aelod wedi cael cyfle i ystyried adroddiad yr Arolygydd a’r penderfyniad ar y Gorchmynion Statudol. Bydd y ddadl a’r bleidlais yn cael eu hystyried wrth wneud y penderfyniadau buddsoddi terfynol ynghylch a ddylid dyfarnu contractau adeiladu ai peidio.