Pa asesiadau sydd wedi'u gwneud o'r adnoddau ychwanegol y bydd eu hangen ar Lywodraeth Cymru i weithredu'r cynllun nwyddau cyhoeddus o gymharu â'r cynllun taliad sylfaenol?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig | Wedi'i ateb ar 26/09/2018
Bydd yr asesiad effaith integredig y bydd swyddogion yn ei gynnal ar ôl i’r ymatebion i’r ymgynghoriad presennol gael eu dadansoddi yn ystyried y mater hwn. Bydd hi’n bwysig cymharu cost cyflawni’r holl gynlluniau presennol o ran adnoddau â chost cynigion at y dyfodol o ran adnoddau.