WAQ77174 (w) Wedi’i gyflwyno ar 19/09/2018

A fydd paramedr 2 'agored i bawb', y gyfeirir ato yn 'Brexit a'n tir' yn cynnwys busnesau mawr, busnesau coedwigaeth ac elusennau sydd ar hyn o bryd yn anghymwys ar gyfer taliadau sylfaenol oherwydd y rheol ffermwr actif?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig | Wedi'i ateb ar 26/09/2018

Rydym yn ymgynghori ynghylch pob paramedr o’r cynllun nwyddau cyhoeddus.
 

Nod paramedr 2 yw sicrhau bod gan reolwyr tir gyfle i ymuno â’r cynllun, hyd yn oed os nad ydynt yn rheoli ar hyn o bryd neu’n berchen ar “nodweddion” nwyddau cyhoeddus. Yn benodol, mae angen i ni sicrhau bod modd i ffermwyr sydd â mathau amrywiol iawn o dir, gan gynnwys tir a allai fod wedi’i wella’n amaethyddol, fanteisio ar y cynllun.