WAQ77173 (w) Wedi’i gyflwyno ar 19/09/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau os bydd gan denantiaid yr hawl i newid natur eu busnesau a defnydd y tir er mwyn bod yn gymwys i gael taliad gan y cynllun nwyddau cyhoeddus newydd?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig | Wedi'i ateb ar 26/09/2018

Mater rhwng y tenant a’r perchennog tir yw natur tenantiaeth. Rwy’n cydnabod bod rhyw ffurf ar denantiaeth yn berthnasol i gyfran uchel o dir amaethyddol Cymru, ac mae ymgynghoriad ‘Brexit a’n tir’ yn gwahodd sylwadau ynghylch a oes angen i Lywodraeth Cymru gymryd unrhyw gamau er mwyn sicrhau bod modd i denantiaid ymuno â chynlluniau newydd.