WAQ76957 (w) Wedi’i gyflwyno ar 20/07/2018

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol gadarnhau ar gyfer y pum mlynedd diwethaf: 1) faint oedd gwariant Llywodraeth Cymru ar gyngor cyfreithiol a chynrychiolaeth gyfreithiol gan gwmnïau allanol, a 2) faint o’r gwariant hwnnw aeth i gwmnïau cyfreithiol â’u pencadlysoedd yng Nghymru?

Wedi'i ateb gan Cwnsler Cyffredinol | Wedi'i ateb ar 09/08/2018

Mae gwariant cyfreithiol Llywodraeth Cymru yn cael ei ddal fel rhan o gofnod ehangach, gan gynnwys costau trafodiadau cyfreithiol, na ellir eu cyflwyno heb graffu ar nifer sylweddol o drafodiadau. Nid yw’r wybodaeth felly ar gael ar hyn o bryd yn y ffurf y gofynnwyd amdani a dim ond drwy ysgwyddo costau anghymesur y gellid ei darparu ar unwaith. Fodd bynnag, mae’r broses o ddadgyfuno ar y gweill a gellir darparu gwybodaeth pan fydd ar gael.

Ymateb o sylwedd