WAQ76956 (w) Wedi’i gyflwyno ar 20/07/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau pa waith y mae neu y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatblygu capasiti yn fewnol i baratoi at y posibilrwydd o ddatganoli plismona a’r gyfundrefn cyfiawnder troseddol yn y dyfodol?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus | Wedi'i ateb ar 09/08/2018

Y Swyddfa Gartref a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder sy’n gyfrifol am y materion hyn ac nid ydynt wedi eu datganoli i’r Cynulliad. Fodd bynnag, byddem yn ddiolchgar iawn i ddechrau ar y gwaith o greu mwy o gapasiti i gynnwys polisi plismona a chyfiawnder oherwydd rydym yn ystyried bod hwn yn faes polisi pwysig y mae gan Lywodraeth Cymru lais ynddo, ac y mae’n chwarae rhywfaint o ran ynddo eisoes.