WAQ76942 (w) Wedi’i gyflwyno ar 19/07/2018

Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud parthed effeithiolrwydd dull difa moch daear yn Lloegr fel modd o reoli’r diciau mewn gwartheg?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus | Wedi'i ateb ar 09/08/2018

Roedd y dadansoddiad a gyhoeddwyd a oedd yn defnyddio’r data oedd ar gael o ddwy flynedd gyntaf y cynllun i reoli moch daear o dan arweiniad y diwydiant mewn ardaloedd o Wlad yr Haf a Swydd Gaerloyw, Brunton et al. (2017), yn dangos bod y lleihad yn nifer yr achosion o TB yn gysylltiedig â difa yn y ddwy flynedd gyntaf yn ardaloedd ymyrraeth Gwlad yr Haf a Swydd Gaerloyw o’u cymharu ag ardaloedd lle nad oedd difa yn digwydd. Gwelwyd cynnydd yn nifer yr achosion o ganlyniad i ddifa yn yr ardal glustogi o  2km o amgylch yr ardal ymyrraeth yng Ngwlad yr Haf ond nid yn Swydd Gaerlyr.

 

Roedd adroddiad diweddaraf Defra yn dadansoddi nifer yr achosion o TB Buchol mewn gwartheg yn 2013 - 2016 ar gyfer rheoli moch daear o dan arweiniad y diwydiant ar gyfer y tair blynedd ddilynol mewn ardaloedd o Wlad yr Haf a Swydd Gaerloyw a blwyddyn ddilynol yn Dorset. Yn ôl y dadansoddiad, nid oedd unrhyw wahaniaethau ystadegol sylweddol rhwng ardaloedd canolog cyfunol yr ardaloedd ymyrraeth o’u cymharu â’r ardaloedd cymharol, nac ardaloedd clustogi cyfunol ar gyfer yr ardaloedd ymyrraeth o’u cymharu ag ardaloedd clustogi cymharol ar gyfer y blynyddoedd hynny ar wahân.

 

Felly fy asesiad i, sy’n cyd-fynd ag asesiad yr awdur, yw annog pobl i fod yn wyliadwrus rhag dod i gasgliadau cyffredinol am effeithiolrwydd y polisi ar hyn o bryd. Rhaid nodi hefyd y cafwyd oedi o ryw bedair blynedd rhwng difa yn yr Hap-dreial Difa Moch Daear a gweld effaith sylweddol mesuradwy ar nifer yr achosion o TB Buchol. (Donnelly et al., 2007).