WAQ76940 (w) Wedi’i gyflwyno ar 19/07/2018

Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i rhoi i sut i gynnwys Blaenau Ffestiniog mewn rhwydwaith bysiau Cymru?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth | Wedi'i ateb ar 27/07/2018

Mae cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i asesu gofynion eu cymunedau o safbwynt gwasanaethau bws lleol. Lle nad yw gwasanaethau o’r fath yn cael eu darparu ar lefel fasnachol, gallai awdurdod lleol ddefnyddio ei adnoddau ei hun neu ei ddyraniad o’r Grant Cymorth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Gwasanaethau Bws er mwyn cyfrannu at gost gwasanaeth dan gontract.